Miliwnydd yn torri ail record cyflymder beicio ar dywod

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Zef Eisenberg

Mae miliwnydd wedi torri un record cyflymder ar Draeth Pentywyn ond wedi gorfod gohirio'i ymdrech i fod y person cyntaf i dorri dwy record cyflymder y byd ar dywod.

Roedd Zef Eisenberg eisoes wedi torri'r record cyflymder tywod ar feic modur y llynedd ar yr un traeth, ar ôl teithio ar gyflymder o 201.5 mya ar feic Suzuki Hayabusa.

Ddydd Sadwrn ar ôl cyrraedd cyflymder o 182.4 mya ar gyfartaledd dros bellter o filltir, fe chwalodd y record a gafodd ei gosod yn 1927 - sef 127 mya - gan Syr Malcolm Campell yn ei gar eiconig, Blue Bird.

Ond bydd yn rhaid i'r gŵr busnes 46 oed ddychwelyd i'r traeth ym mis Mai i geisio torri record byd arall trwy yrru'n gynt na 200 mya ar dywod mewn car.

Cafodd ei ymdrechion i wneud hynny ddydd Sadwrn eu hatal wedi i broblemau gydag injan a theiars ei feic modur lyncu'r amser oedd ar gael cyn i'r amodau fod yn llai ffafriol.

Mae'r record 'milltir ar bellter' yn cofnodi'r cyflymder ar gyfartaledd dros ddwy filltir, gan gymryd i ystyriaeth bod hi'n cymryd milltir i gyrraedd y cyflymdra uchaf.

Mae Mr Eisenberg, sylfaenydd y cwmni ffitrwydd Maximuscle o Jersey, yn bwriadu rhoi cynnig arall arni yn ei Porsche 911 Turbo S ganol Mai.