Pro14: Cheetahs 14-31 Gweilch

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,
Owen Watkin yn sicrhau meddiant i'r Gweilch

Mae yna hwb i obeithion y Gweilch am le yng ngemau ail-gyfle yn y Pro14 a chystadleuaeth Cwpan Pencampwyr Ewrop wedi buddugoliaeth a phwynt bonws yn erbyn y Cheetahs in Bloemfontein.

O fewn hanner awr roedd y Gweilch ar y blaen wedi ceisiau gan Dan Evans ac Olly Cracknell a'r sgôr yn 0-14 erbyn yr egwyl.

Roedd yna gais gan Dries Swanepoel i'r tîm cartref ond gydag 20 munud yn weddill roedd ceisiau pellach gan Justin Tipuric a Cory Allen wedi ymestyn mantais y Gweilch i 7-28.

Daeth ragor o bwyntiau yn sgil dau drosiad yr un gan Luke Price a Sam Davies, a chic gosb Davies.

Daeth Dan Lydiate i'r cae o'r fainc yn yr ail hanner - ei gêm gyntaf mewn pum mis ar ôl anafu ei ben-elin yn erbyn Awstralia ym mis Tachwedd.