Athrawon yn glanhau ysgolion i'w gosod achos diffyg arian

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Roedd e-bost gan brifathro ysgol gynradd ym Mhenarth yn annog rhieni i roi pwysau ar wleidyddion i wneud mwy i ariannu ysgolion

Mae prifathro ysgol yn ne Cymru wedi dweud wrth rieni bod cydweithwyr yn glanhau ysgolion dros benwythnosau er mwyn eu rhoi ar osod i godi mwy o arian.

Dywedodd yr e-bost, ar ran prifathrawon Penarth, Bro Morgannwg, fod rhai ysgolion hefyd yn ystyried cau'n gynt ar ddyddiau Gwener i arbed arian.

Mae'r e-bost yn annog rhieni i roi pwysau ar wleidyddion i roi mwy o arian i ysgolion yng Nghymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod ariannu ysgolion yn gyfrifoldeb i gynghorau, a bod gweinidogion wedi rhoi £24m o gefnogaeth broffesiynol yn ddiweddar.

Addysg plant 'dan fygythiad'

Cafodd y llythyr, "Mae'r Creisis Ariannu yn Gwaethygu", ei anfon at rieni Ysgol Gynradd Victoria ym Mhenarth.

Wedi'i ysgrifennu gan y prifathro, Sam Daniels, ar ran "Clwstwr Penaethiaid Penarth", dywedodd y llythyr bod diffyg o £1m mewn cyllid ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, a bod diswyddiadau'n cael eu hystyried.

Soniodd y llythyr bod staff yn gweithio i arolygiaeth Estyn a'r corff addysg ranbarthol er mwyn gwneud incwm ychwanegol, "i'r man lle mae'n peryglu iechyd a diogelwch".

"Rydym yn ystyried diswyddiadau ac rydym wedi gweld prifathrawon yn glanhau neuaddau a thoiledau dros y penwythnos er mwyn gosod y gofod i wneud arian," meddai Mr Daniels yn y llythyr.

"Mae addysg plant a'u cyfleoedd bywyd dan fygythiad yn sgil methiant Llywodraeth Cymru i ariannu ysgolion yn iawn.

"Mae disgwyl i ni alluogi cwricwlwm newydd i Gymru, deddf anghenion dysgu ychwanegol newydd a chynhyrchu miliwn o siaradwyr Cymraeg. Does yr un o'r rhain yn mynd i ddigwydd gyda'n lefelau cyllid ni fel maen nhw."

Mae 16 o ysgolion yn y clwstwr sy'n cael ei gynrychioli gan Mr Daniels yn yr e-bost, sy'n cynnwys dwy ysgol uwchradd ac ysgol arbennig.

Llywodraeth yn 'codi safonau'

Dywedodd y llywodraeth bod ariannu ysgolion yn fater i awdurdodau lleol, gan nodi bod Cyngor Bro Morgannwg yn gwario'r swm isaf i bob pen o holl gynghorau Cymru.

Ychwanegodd y llefarydd bod "£24m o gefnogaeth broffesiynol" wedi ei roi yn ddiweddar er mwyn hwyluso cyflwyno'r cwricwlwm newydd a "pharhau i godi safonau".