Gyrrwr beic modur wedi marw ym Mhowys

Published
image copyrightHeddlu Dyfed Powys
image captionRoedd ffordd yr A4067 ar gau am gyfnod wrth i swyddogion yr heddlu ymchwilio i'r digwyddiad

Mae gyrrwr beic modur wedi marw mewn gwrthdrawiad ar ffordd ger Aberhonddu fore Sul.

Cafodd swyddogion eu galw i ffordd yr A4067 rhwng Pen-y-cae a chronfa ddŵr Crai ychydig wedi 11:00.

"Yn anffodus, fe wnaeth gyrrwr y beic modur farw yn y fan a'r lle", meddai llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys.

Mae'r heddlu hefyd wedi cadarnhau bod teulu'r dyn wedi cael gwybod am ei farwolaeth.

Doedd yr un cerbyd arall yn rhan o'r digwyddiad.

Cafodd y ffordd ei chau am rai oriau brynhawn dydd Sul wrth i swyddogion ymchwilio i achos y gwrthdrawiad, ac maen nhw'n apelio am dystion i'r digwyddiad.

Pynciau Cysylltiedig