Cwpan Her yr Alban: Ross County 3-1 Cei Connah
- Cyhoeddwyd

Fe sicrhaodd Ross County'r fuddugoliaeth gyda thair gôl yn 15 olaf y gêm
Mae tîm Cei Connah wedi methu yn eu hymdrechion i fod y tîm cyntaf o'r tu allan i'r Alban i ennill eu Cwpan Her.
Er i'r ymwelwyr o Gymru fynd ar y blaen wedi 21 munud, fe fethon nhw a chadw'r fantais yn erbyn Ross County.
Fe ildion nhw dair gôl yn chwarter awr ola'r gêm, gyda dwy yn dod oddi ar droed Josh Mullin o fewn pedair munud.
Fe sicrhaodd Jamie Lindsey y fuddugoliaeth gyda chic o ymyl y blwch dair munud o'r diwedd.