Pro14: Gleision 41-17 Scarlets

Published
image copyrightHuw Evans picture agency
image captionLlwyddodd Aled Summerhill i sgorio dwy gais i'r Gleision

Roedd hi'n gêm siomedig i'r Scarlets, wrth i'r Gleision llwyr gipio'r fuddugoliaeth ym Mharc yr Arfau.

Er gwaethaf colli Josh Navidi i anaf yn nwy funud cyntaf y gêm, bu'n hanner cyntaf lwyddiannus iawn i'r tîm cartref, wrth i Owen Lane ac Aled Summerhill sgorio dwy gais yr un a Josh Turnbull hefyd yn sgorio un.

Gyda Gareth Anscombe yn trosi pob cais a chymryd cic gosb wrth iddo ddychwelyd i'w dîm rhanbarthol fel cefnwr, roedd y Gleision 38 pwynt ar y blaen.

Doedd dwy gais Rob Evans ac un Ioan Nicholas yn yr ail hanner ddim yn ddigon i'r Scarlets achub y blaen.

Pynciau Cysylltiedig