Hallam Amos yn ymuno â'r Gleision y tymor nesaf

Published
image copyrightHuw Evans Agency

Mae asgellwr Cymru, Hallam Amos, wedi arwyddo gyda'r Gleision ar gyfer y tymor nesaf.

Mae Amos, 24, yn gadael y Dreigiau wedi wyth tymor gyda'r rhanbarth.

Chwaraeodd dros 100 o weithiau i'r Dreigiau, ond dywedodd ei fod yn cyrraedd cyfnod yn ei yrfa lle byddai'n "elwa" o gyfle newydd.

Dywedodd nad oedd ei benderfyniad i adael y Dreigiau yn adlewyrchiad o'r rhanbarth, na'u cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Bydd Amos yn ymuno ag un o asgellwyr arall Cymru, Josh Adams, sydd hefyd wedi ymuno â'r Gleision y tymor nesaf.

Straeon perthnasol