Cyn bêl-droediwr Cymru'n cofio'r frwydr i ganu'r anthem

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Getty Images

Ddyddiau cyn i bêl-droedwyr Cymru wynebu Slofacia yng ngêm ragbrofol gyntaf yr ymgyrch i sicrhau lle yn rowndiau terfynol Euro 2020, mae un o arwyr y tîm a gurodd yr hen Siecoslofacia mewn gêm ragbrofol Cwpan y Byd yn 1977 wedi bod yn rhannu ei atgofion.

Yn ei gyfweliad cyntaf erioed yn Gymraeg, mae'r chwaraewr canol cae, John Mahoney yn dweud mai'r hyn sy'n aros yn y cof fwyaf yw taw dyna'r tro cyntaf i Gymru ganu Hen Wlad Fy Nhadau yn unig cyn y gic gyntaf - er iddyn nhw guro pencampwyr Ewrop ar y pryd o 3-0 ar y Cae Ras yn Wrecsam.

"'Sa i'n cofio'n glir y gêm, heblaw ennill y gêm," meddai wrth Post Cyntaf.

"Peth mwyaf 'dwi'n cofio oedd taw dyna'r tro cynta' na chafodd God Save The Queen [ei chwarae] cyn y gêm, so o'n i wrth fy modd!"

Roedd Mahoney hefyd yn rhan o'r tîm a gymrodd ran mewn protest chwedlonol yn Wembley ddeufis wedi'r fuddugolaeth yn erbyn Siecoslofacia.

Gwrthododd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr a chwarae anthem genedlaethol Cymru yn ogystal ag un Lloegr cyn eu gêm yn yr hen bencampwriaeth flynyddol rhwng timau gwledydd y DU.

Fe safodd y tîm yn stond a chanu Hen Wlad Fy Nhadau ar ddiwedd God Save The Queen, er i swyddogion eu siarsio i baratoi ar gyfer dechrau'r gêm.

ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
disgrifiad o’r llunFe fydd Cymru yn herio Slofacia yng Nghaerdydd ddydd Sul

"O'dd Terry Yorath, y capten, [y golwr] Dai Davies, fy hunan... yn trefnu'r troops a gweud, 'paid â mynd o gwbl tan hanner munud wedi...'. Y wasg wedi sylwi [ac yn] dweud ar ôl y gêm, 'What are they up to?'

"So mae Terry yn esbonio iddyn nhw... wel, protest. Achos pan ti'n chware yn Rwsia... unlle, mae parch i baner Cymru a'r anthem genedlaethol - ond dim yn Lloegr."

Gan wybod mai dyna oedd penderfyniad y trefnwyr yn Wembley, roedd Mahoney wedi chwarae recordiad o'r anthem ar beiriant casét yn yr ystafell newid cyn mynd i'r cae.

Ysbrydoliaeth

Mae'r cyn-aelod o dimau Crewe Alexandra, Stoke City, Middlesborough ac Abertawe yn disgrifio aros mewn gwesty yn ardal Llangollen oedd yn "home from home" pan roedd Cymru'n chwarae gemau cartref yn rheolaidd yn Wrecsam.

Roedd edrych trwy'r ffenest ar y bryniau "a gweld Castell Dinas Brân yn y pellter yn ysbrydoliaeth", meddai, wrth baratoi i wisgo crys coch Cymru.

disgrifiad o’r llunFe wnaeth John Mahoney ei gyfweliad Cymraeg cyntaf erioed gyda gohebydd BBC Cymru Iola Wyn

Mae bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerfyrddin, ac wedi bod yn dysgu Cymraeg mewn gwersi Cymraeg i Oedolion ers tua saith mlynedd.

"Y rheswm mwyaf i fi ddewis dysgu Cymraeg oedd 'mod i wastad isie dysgu fe ond erioed wedi gwneud yr amser - jyst yn rhy ddiog, yn anffodus!"

Daeth carfan Cymru yn agos at gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn 1978, ac mae'r gŵr a gafodd 51 o gapiau rhwng 1967 a 1983 yn naturiol wedi ymfalchïo yn llwyddiant y tîm cenedlaethol yn Euro 2016 yn Ffrainc.

Ond mae'n pwysleisio bod hi'n "hanfodol" fod Gareth Bale yn osgoi anafiadau os yw'r ymgyrch sy'n dechrau yn erbyn Slofacia yn Stadiwm Caerdydd ddydd Sul am fod yn un lwyddiannus.

Straeon perthnasol