Gweinidog wedi 'bygwth' y Llyfrgell Genedlaethol

Arglwydd Elis-Thomas
Image caption Roedd yr Arglwydd Elis-Thomas yn mynnu nad oedd angen i'r prif weithredwr siarad Cymraeg

Fe wnaeth gweinidog Llywodraeth Cymru "fygwth" y Llyfrgell Genedlaethol ynglŷn â'i ariannu yn y dyfodol yn ystod ffrae dros hysbyseb swydd, yn ôl AC Plaid Cymru.

Fe wnaeth cadeirydd Pwyllgor Diwylliant y Cynulliad, Bethan Sayed feirniadu Dafydd Elis-Thomas am adael i ffrae dros gyllid effeithio ar y ddadl am hysbyseb y swydd.

Roedd y llyfrgell wedi rhybuddio y byddai penodi prif weithredwr di-Gymraeg yn ei gwneud yn "agored i feirniadaeth gyhoeddus".

Ond yn ôl ebyst sydd wedi'u gweld gan BBC Cymru, roedd yr Arglwydd Elis-Thomas yn mynnu nad oedd angen i'r prif weithredwr siarad Cymraeg.

'Gallai wneud pethau'n fwy anodd'

Fe ysgrifennodd swyddog Llywodraeth Cymru, pe bai'r llyfrgell yn parhau i wneud y Gymraeg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd "y gallai wneud pethau'n fwy anodd o ran materion eraill y mae'r llyfrgell yn ceisio sicrhau ein cefnogaeth (e.e. yr archif ddarlledu)."

Roedd yr Arglwydd Elis-Thomas, y gweinidog diwylliant, wedi rhybuddio ym mis Tachwedd nad oedd yn gallu ymrwymo £1m i Archif Ddarlledu Genedlaethol Cymru.

Ond ym mis Chwefror dywedodd bod "problemau a phryderon oedd yn bodoli" wedi eu datrys bellach.

Image caption Mae Bethan Sayed wedi beirniadu'r gweinidog am adael i ffrae dros gyllid effeithio ar y ddadl am hysbyseb y swydd

Dywedodd Ms Sayed wrth raglen Newyddion 9: "Nes i ddarllen e fel rhyw fath o fygythiad, pe na bai nhw yn dilyn yr hyn roedd e eisiau iddyn nhw wneud o ran yr apwyntiad penodol yma, y byddai'r archif falle yn destun trafodaeth bellach.

"Fi'n credu bod e'n gwestiwn sut mae rhywbeth yn ymwneud â chais swydd wedi esblygu i mewn i drafodaeth am yr archif."

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, nad oedd hi am wneud sylw am wleidydd, ond o'i safbwynt hi roedd y Llyfrgell Genedlaethol "wedi ymddwyn yn briodol" drwy barhau gyda'r hysbyseb yn gofyn am siaradwr Cymraeg.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae pob mater gyda'r Llyfrgell Genedlaethol wedi eu datrys bellach.

Fe wnaeth yr Arglwydd Elis Thomas wrthod gwneud sylw ar y mater.

Straeon perthnasol