Emiliano Sala: Honiad bod asiant 'wedi bygwth lladd'

Willie McKay
Image caption Willie McKay oedd yn gyfrifol am drefnu'r awyren aeth ar goll dros Fôr Udd

Mae asiant fu'n gweithio ar drosglwyddiad Emiliano Sala i Glwb Pêl-droed Caerdydd dan ymchwiliad gan Heddlu'r Met yn dilyn honiadau ei fod wedi bygwth staff y clwb.

Bu farw'r ymosodwr 28 oed o'r Ariannin wedi i'r awyren roedd yn teithio arni gwympo i Fôr Udd ym mis Ionawr, ddyddiau'n unig ar ôl cwblhau ei drosglwyddiad.

Dyw Willie McKay ddim yn asiant bellach, ond roedd yn helpu ei fab, Mark, i gwblhau'r cytundeb welodd Sala yn symud o Nantes i Gaerdydd am £15m.

Mae Mr McKay wedi bod yn destun ymchwiliad gan Heddlu De Cymru yn dilyn honiadau ei fod wedi bygwth lladd staff Clwb Pêl-droed Caerdydd.

Yr honiad yw bod hyn yn ymwneud â ffrae dros bwy fydd yn gyfrifol am dalu iawndal.

Image copyright Getty Images/David Ibbotson
Image caption Cafodd corff Emiliano Sala ei ddarganfod yn y môr, ond mae'r peilot David Ibbotson yn parhau ar goll

Fe wnaeth o leiaf un o'r bygythiadau honedig ddigwydd yn Llundain, ac felly mae Heddlu De Cymru wedi trosglwyddo'r ymchwiliad at Heddlu'r Met.

Mae Mr McKay eisoes wedi cyhuddo Caerdydd o "gefnu" ar Sala, gan ddweud y bu'n rhaid iddo drefnu ei drafnidiaeth ei hun ar ôl arwyddo i'r Adar Gleision.

Mae Mr McKay wedi cadarnhau mai ef oedd yn gyfrifol am drefnu'r awyren.

Cafodd corff Sala ei godi o weddillion yr awyren ar wely'r môr ym mis Chwefror, ond mae'r peilot David Ibbotson yn parhau ar goll.

Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi gwrthod gwneud sylw am yr ymchwiliad.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol