Fraser Franks yn ymddeol oherwydd problemau gyda'i galon

Fraser Franks Image copyright Getty Images
Image caption Mae Franks wedi chwarae 34 o weithiau i Gasnewydd y tymor hwn

Mae amddiffynnwr Casnewydd, Fraser Franks wedi gorfod ymddeol o'r gamp am resymau yn ymwneud â'i iechyd.

Nid yw meddygon yn fodlon gweld Franks, 28 oed, yn dychwelyd i chwarae i'r Alltudion oherwydd pryderon am guriad ei galon.

Roedd rhaid iddo dreulio wythnos yn yr ysbyty yn ddiweddar gan fod curiad ei galon yn afreolaidd.

Roedd Franks yn gapten ar Gasnewydd yn ystod eu buddugoliaeth hanesyddol yn erbyn Caerlŷr yng nghwpan FA yn gynharach eleni.

Mae Franks wedi chwarae 34 o weithiau i Gasnewydd eleni ac wedi cynrychioli AFC Wimbledon, Welling United, Luton Town a Stevenage yn ystod ei yrfa.

Dywedodd Clwb Pêl-droed Casnewydd mewn datganiad eu bod nhw'n gwneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi Franks a'i deulu.

Straeon perthnasol