'Dim digon o bwyslais ar atal gwastraff' yn ôl archwilydd

Claddfa sbwriel Image copyright Getty Images

Er bod Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i gynyddu ailgylchu, atal gwastraff ddylai fod y brif nod, yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Mewn adroddiad newydd mae Adrian Crompton yn dweud mai cynnydd cymysg sydd wedi bod tuag at dargedau atal gwastraff.

Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei dull gweithredu a dysgu o arferion y tu allan i Gymru.

Dywedodd y llywodraeth y byddan nhw'n ymgynghori ar atal gwastraff yn ddiweddarach eleni.

Cosbau ariannol

Atal gwastraff yw'r ffordd fwyaf effeithiol o leihau ôl-troed ecolegol gwastraff, medd Mr Crompton.

Er bod gan Lywodraeth Cymru gynllun ar droed ar gyfer atal gwastraff, mae ei adroddiad yn dweud fod ganddo broffil is nag ailgylchu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi arian i gynghorau ar gyfer eu gwasanaethau rheoli gwastraff trefol, ond mae'r rhan fwyaf wedi'i wario ar gefnogi ailgylchu, gydag ychydig iawn ohono wedi ei wario ar atal gwastraff.

Yn 2016-17 gwariodd cynghorau o leiaf £60m o'r £64.3m a roddwyd iddynt ar weithgareddau oedd yn ymwneud yn bennaf â chynyddu ailgylchu.

Mae cynghorau wedi'u bygwth â chosbau ariannol am fethu â chyflawni'r targedau ailgylchu.

Image copyright Getty Images
Image caption Mae ymdrechion cynghorau wedi canolbwyntio'n bennaf ar gynyddu ailgylchu yn hytrach nag atal gwastraff

Cymru yw un o'r gwledydd prin sydd wedi gosod targedau atal gwastraff, ac mae strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff Llywodraeth Cymru yn cynnwys uchelgais i gael gwared â'r holl wastraff gweddilliol yn llwyr erbyn 2050.

Ond mae'r adroddiad yn dweud bod y data sydd ar gael i fesur perfformiad yn amrywio o ran ansawdd ac yn nodi cynnydd cymysg.

Ar y cyfan, mae swm y gwastraff sy'n cael ei gynhyrchu mewn cartrefi wedi lleihau yn unol â tharged Llywodraeth Cymru ers 2007, ond gwelwyd ychydig o amrywiad yn y blynyddoedd diwethaf.

Fe wnaeth yr arolygon diwethaf yn 2012 ddangos nad oedd unrhyw gynnydd wedi ei wneud i leihau maint y gwastraff masnachol a diwydiannol.

Er ei alwad, fe wnaeth Mr Crompton gydnabod bod llawer o'r ffactorau sy'n dylanwadu ar faint o wastraff sy'n cael ei gynhyrchu ddim yn bethau y gall Llywodraeth Cymru eu rheoli'n uniongyrchol.

'Gwireddu ei huchelgeisiau'

Dywedodd Mr Crompton: "Mae angen i Lywodraeth Cymru ddweud a gwneud a byw yn ôl egwyddorion ei Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ei hun pan fydd yn adolygu ei strategaeth wastraff yn ddiweddarach y flwyddyn hon, gan sicrhau nad yw ei phwyslais ar ailgylchu yn dod ar draul atal gwastraff.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ategu rhai mentrau pwysig ond gall hefyd ddysgu o ddulliau gweithredu mannau eraill, gan gynnwys cyfleoedd i wneud mwy o ddefnydd o ddeddfwriaeth a chymhelliannau ariannol er mwyn helpu i wireddu ei huchelgeisiau o ran atal gwastraff.

"Gall Cymru ddangos rhywfaint o gynnydd da ar wastraff cartrefi, ond nid oes ganddi'r ffigyrau cyfredol i farnu'r cynnydd ar wahanol fathau o wastraff."

Image copyright Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Image caption Mae Adrian Crompton wedi galw ar y llywodraeth i adolygu ei dull gweithredu

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n ni'n falch iawn o fod yn drydydd yn y byd o ran cyfraddau ailgylchu.

"Gwella ailgylchu oedd y cam cyntaf, ynghyd â gweithredu i hybu atal gwastraff, ac ry'n ni'n bwriadu ailddyblu'r ymdrechion hynny yn ein strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff, a bydd ymgynghoriad ar hynny yn ddiweddarach eleni."

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad, Nick Ramsay AC: "Mae'n gwneud synnwyr i fuddsoddi mewn gwaith atal gwastraff, nid yn unig er mwyn osgoi effeithiau amgylcheddol niweidiol a chadw adnoddau prin, ond i arbed arian.

"Mae'r costau sy'n gysylltiedig â rheoli a gwaredu gwastraff yn sylweddol, ac mae cynghorau yn gwario tua £240m y flwyddyn ar wasanaethau gwastraff, wedi'u cefnogi gan wahanol ffrydiau o gyllid Llywodraeth Cymru.

Ychwanegodd y bydd y pwyllgor yn trafod adroddiad yr archwilydd yn fuan.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol