Parhau i wrthwynebu ad-drefnu addysg Gymraeg Pontypridd

Published
image copyrightGoogle
image captionYn rhan o'r cynlluniau arfaethedig, mae trafod cau Ysgol Pont Siôn Norton ac adeiladu ysgol gynradd Gymraeg newydd sbon

Mae ymgyrchwyr yn dweud eu bod yn parhau â'u brwydr yn erbyn cynlluniau Cyngor Rhondda Cynon Taf i ad-drefnu ysgolion cyfrwng Cymraeg ym Mhontypridd, gan ddweud y gallai'r newidiadau arwain at "ddirywiad sylweddol yr iaith".

Mae cabinet y cyngor wedi cymeradwyo creu ysgol gynradd Gymraeg newydd gwerth £10.7m ar safle Ysgol Gynradd Heol-y-Celyn yn Rhydyfelin - cam a fyddai'n golygu cau'r ysgol honno ac Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton.

Yn ôl gwrthwynebwyr, fe fydd y penderfyniad yn effeithio'n negyddol ar gymunedau Cymraeg yng ngogledd Pontypridd, ac yn golygu siwrne hir i ddisgyblion a rhieni.

Dywed y cyngor eu bod wedi ystyried yr holl ymatebion i ymgynghoriad ar y cynlluniau, sy'n golygu buddsoddiad o £37.4m yn addysg ardal ehangach Pontypridd.

Ond yn ôl trefnwyr protest cyn cyfarfod y cabinet ddydd Iau, mae'r penderfyniad ynghylch yr ysgolion Cymraeg yn "anghywir... ac fe fyddwn yn brwydro'r holl gam yn ei erbyn".

"Rydym eisiau addysg gynradd Gymraeg leol," maen nhw'n ychwanegu mewn neges Twitter. "Ddylai addysg Gymraeg fod yn hawl yn hytrach na braint yng Nghymru."

'Cynnig gwallus'

Dywedodd Ceri McEvoy, cyfarwyddwr datblygu mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg, eu bod yn rhannu pryderon ymgyrchwyr lleol.

"Nid yw'r cynnig yn ymateb i anghenion addysgol ac ieithyddol yr ardal," meddai.

"Rydym o'r farn bod y cynnig yn wallus ac nad yw'n profi bod gwaith digonol ac ystyrlon wedi ei wneud i ymchwilio i safleoedd posibl eraill... nac ychwaith wedi mesur yn llawn, effaith ieithyddol y cynnig ar gymunedau gogledd y dref.

Tra'n derbyn bod angen buddsoddi mewn adeilad newydd ar gyfer Ysgol Pont Sion Nortôn, dywed ymgyrchwyr bod "gwersi o siroedd eraill wedi dangos bod cymryd y penderfyniad anghywir yn medru arwain at ganlyniadau anuniongyrchol, all gael effaith andwyol ar sefydlogrwydd a thwf y ddarpariaeth".

"Byddai'n gwbl anfaddeuol syrthio i'r un fagl yn yr achos hwn."

image captionMae ymgyrchwyr wedi bod yn protestio yn erbyn yr ad-drefnu arfaethedig

'Arwain at ddirywiad iaith'

Mae'r grŵp ymgyrchu Rhieni yn Brwydro dros Addysg Gymraeg yn Lleol o blaid addasu safle presennol YGG Pont Siôn Norton, gan ddadlau bod safle Heol-y-Celyn yn rhy bell i rai disgyblion a rhieni.

Mewn datganiad cyn cyfarfod bore Iau, nododd y grŵp eu bod yn "croesawu'r buddsoddiad arfaethedig mewn addysg Gymraeg" a'i fod "yn swnio fel cam cadarnhaol ar gyfer twf yr iaith".

Fodd bynnag, dywed: "Nid y plant sy'n byw yng nghymunedau gogledd Pontypridd fydd yn elwa o'r buddsoddiad yma, a hynny yn wyneb rhwystrau fel teithio mewn bws am dros hanner awr i gyrraedd yr ysgol gan basio sawl ysgol cyfrwng Saesneg ar y ffordd."

Ychwanegodd yr ymgyrchwyr fod y cynlluniau "yn annoeth" ac y gall gael "effaith anwydol ar ddyfodol yr iaith o fewn ein cymunedau yng ngogledd Pontypridd yn yr hirdymor".

image captionDywed gwrthwynebwyr y bydd y frwydr yn erbyn y cynlluniau yn parhau

Yn ôl swyddog maes i Gymdeithas yr Iaith, Owen Howell, mae'n "siom enfawr bod y cyngor yn cynnig cau Ysgol Pont Siôn Norton a lleoli'r ysgol newydd cyn belled o'r gymuned".

"Tra bod modd croesawu buddsoddiad hir-ddisgwyliedig mewn addysg gynradd Gymraeg yn yr ardal, ni ddylai hyn fod ar draul addysg leol," meddai.

"Galwn ar y cyngor i fynd ati i sicrhau bod yr ysgol yn derbyn y cyfleusterau newydd sydd angen arni, o fewn yr ardal leol, wrth barhau gyda'r cynlluniau ar gyfer ysgol newydd arall ar safle presennol Heol y Celyn."

'Sarhad a gwarth'

Un arall sy'n feirniadol yw'r bardd Aneirin Karadog, ddywedodd nad yw "lles addysg Gymraeg yn flaenoriaeth ymysg y cynlluniau neu'r cynllwynion hyn".

"Yr hyn sydd angen ei gofio yn hyn oll yw bod plant a phobl ifanc ardal gogledd Pontypridd ar y foment yn derbyn addysg o safon a bod y status quo yn gweithio," meddai.

"Mae'r cyfnod cynradd yn hynod o ffurfiannol ym mywydau plant a phobl ifanc ac mae derbyn addysg o fewn cymuned ddaearyddol sy'n berthnasol i'w bywydau tu hwnt i'r ysgol yn holl bwysig i ffyniant y Gymraeg yn yr ardal.

"Os rhywbeth, dylai Cyngor Rhondda Cynon Taf fod yn agor mwy o ysgolion Cymraeg ar hyd a lled yr ardal, i ychwanegu at yr hyn sy'n bodoli eisoes.

"Nid llai na sarhad a gwarth yw'r hyn sy'n digwydd."

Dywedodd y Cynghorydd Joy Rosser, sy'n aelod cabinet dros Addysg a Dysgu Gydol Oes: "Fel cyngor, rydym wedi'i gwneud hi'n glir ein bod am drafod y cynigion gyda thrigolion er mwyn gallu cyfrannu eu hatebion at unrhyw benderfyniad."

Mae'r cyngor hefyd wedi penderfynu sefydlu dwy ysgol ar gyfer disgyblion rhwng 3 a 16 oed ym Mhontypridd a'r Ddraenen-wen a Canolfannau Rhagoriaeth ôl-16 oed yn Ysgol Bryn Celynnog, Y Beddau a Choleg y Cymoedd, Nantgarw.

Ond fydd y cyngor ddim yn bwrw ymlaen â newidiadau posib i ddalgylch Ysgol Bryn Celynnog.

Straeon perthnasol