Ficer yng Nghonwy yn gofyn am atal clychau sy'n 'tarfu'

Ficerdy Eglwys y Santes Fair
Image caption Mae'r ficerdy yn un o sawl adeilad sydd wedi eu lleoli gerllaw'r eglwys

Fe allai clychau eglwys yng Nghonwy gael eu diffodd yn y nos yn dilyn cwyn gan ficer yr eglwys ei hun.

Mae'r Parchedig David Parry wedi ysgrifennu llythyr at Gyngor Tref Conwy yn dweud bod y gloch ar dŵr Eglwys y Santes Fair, sy'n canu bob chwarter awr, yn ei gadw'n effro.

Dywedodd hefyd ei fod yn poeni y gallai'r clychau fod yn tarfu ar ymwelwyr mewn gwestai neu gartrefi cyfagos hefyd.

Bellach mae Cyngor Tref Conwy yn gofyn i bobl eraill sy'n byw o fewn y dref hynafol am eu barn nhw.

Rhan o gymeriad y dref?

Wrth siarad gyda BBC Cymru, dywedodd y Parchedig David Parry nad yw'n awgrymu y "dylen ni ddiffodd clychau'r cloc yn ystod y dydd, dim ond gofyn a oes modd iddyn nhw fod yn dawel yn y nos."

"Mae'n beth da bod cyngor y dref yn gofyn am farn pobl eraill am y peth - fe allai fod ymwelwyr mewn gwestai neu gartrefi cyfagos sydd wedi colli cwsg oherwydd y clychau."

Ond tra'n cydnabod ei fod wedi codi'r mater, pwysleisiodd nad oedd wedi gwneud cwyn swyddogol o dan y ddeddf aflonyddu sain.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae'r clychau yn Eglwys y Santes Fair yn canu pob chwarter awr

Mewn llythyr at drigolion mae'r cyngor yn gofyn am farn trigolion ar atal canu'r clychau rhwng 00:15 a 06:15.

Mae'n dweud: "Mae aelod o'r gymuned wedi tynnu'n sylw ni at glychau cloc Eglwys y Santes Fair a'r posibilrwydd y gallai fod yn tarfu ar fywydau trigolion lleol, busnesau ac ymwelwyr.

"Pwrpas yr holiadur hwn ydy holi a ydy'r gloch yn canu yn rhan o gymeriad a thraddodiad y dref, neu yn ddiflas a diangen."

Yn y cyfamser, mewn sgwrs ar un o dudalennau cymuned Conwy ar Facebook, roedd y mwyafrif o sylwadau sydd wedi eu gadael o blaid cadw'r clychau.

Dywedodd un aelod: "Roedd y clychau yna ymhell cyn y ficer, felly gadewch nhw i fod... maen nhw'n rhan o'r dref."

Pynciau Cysylltiedig