Gêm gyfeillgar ryngwladol: Lloegr C 2-2 Cymru C

Kayne McLaggon Image copyright CBDC
Image caption Kayne McLaggon sgoriodd y gôl gyntaf i Cymru C

Mewn gêm gyfeillgar ryngwladol ar faes Salford, cyfartal 2-2 oedd y sgôr terfynol rhwng Lloegr C a Chymru C.

Roedd tîm Cymru dan reolaeth Mark Jones ac Owain Tudur Jones yn cynnwys cymysgedd o chwaraewyr sy'n chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru.

Lloegr aeth ar y blaen yn gyntaf wedi 24 munud ar ôl i amddiffynnwr Derwyddon Cefn, Nathan Peate osod y bêl yn ei rwyd ei hun.

Roedd Cymru'n gyfartal o fewn chwe munud. Cic rydd gan Clayton Green yn disgyn wrth draed ei gyd-chwaraewr o'r Barri, Kayne McLaggon a sgoriodd o chwe llath.

Aeth y ddau dîm fewn ar yr hanner yn gyfartal.

Fe ddechreuodd Lloegr yr ail hanner yn gryf ac roedden nhw ar y blaen unwaith eto ar ôl 53 o funudau.

Fe darodd Kurt Willoughby gic rydd o 30 llath wnaeth hedfan heibio i Alex Ramsey yn gôl i Gymru, gyda sawl un yn awgrymu y dylai golwr Caernarfon fod wedi gwneud yn well.

Daeth Adam Roscrow ymlaen i'r maes i chwarae yn y llinell flaen gyda McLaggon ac fe lwyddodd ymosodwr MET Caerdydd i sgorio gôl wych ar ôl 63 o funudau yn dilyn pas ddeallus gan Chris Venables.

Daeth y ddau dîm yn agos at sgorio'r gôl fuddugol ond daeth y gêm i ben gyda'r sgôr yn 2-2.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol