Trafod diogelu murlun eiconig 'Cofiwch Dryweryn'

Published
image captionMae wal 'Cofiwch Dryweryn' i'w gweld wrth yrru ar y ffordd rhwng Abertystwyth a Llanrhystud

Maen bosib y bydd murlun Cofiwch Dryweryn yn cael ei ychwanegu at restr o gofebion Llywodraeth Cymru.

Mae disgwyl i swyddogion y llywodraeth, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, CADW a Chyngor Cymuned Llanrhystud ymweld â'r safle ddydd Gwener.

Dewis arall byddai rhestru'r adeilad yn swyddogol, drwy Cadw.

Daw'r datblygiad ar ôl i bwyllgor deisebau Llywodraeth Cymru drafod y mater ddydd Mawrth.

Pwysigrwydd Cenedlaethol

Un fyddai'n croesawi diogelu'r darlun ydy Elfed Wyn Jones. Bu'n un o'r criw aeth ati i ail-baentio'r wal yn dilyn y difrod diwethaf.

"Mae'r murlun yn rhywbeth mor eiconig, mor bwysig i hanes Cymru ac fe ddylai gael ei amddiffyn," meddai.

"Dwi'n ffafrio gweld plac gwybodaeth hefyd yn cael ei osod yna, yn dweud beth yw pwrpas y wal a pham gafodd y wal ei gwneud achos dydy llawer o bobl yng Nghymru hyd yn oed ddim yn gwybod pam bod y wal yma."

media captionFe wnaeth Elfed Wyn Jones o Drawsfynydd ailbaentio'r murlun 'Cofiwch Dryweryn' ar ôl iddo gael ei ddifrodi ym mis Chwefror eleni

Mae gwahanol ffactorau yn cael eu hystyried wrth benderfynu os yw darn yn gymwys i'w gynnwys ar y rhestr swyddogol o gofebau, gan gynnwys ei bwysigrwydd cenedlaethol.

Rhai o'r pethau eraill sy'n cael eu trafod yw cyfnod, prinder, dogfennaeth, gwerth, cyflwr, bregusrwydd, amrywiaeth a photensial y darn.

Daw'r drafodaeth wedi i ddeiseb gael ei chyflwyno i'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth - Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.

Mae cynnal a chadw'r wal yn golygu cost ,ac fe fethodd ymdrech i godi arian yn lleol.

Her ariannol

Dywedodd y Cynghorydd Rowland Rees-Evans, o ward Llanrhystud: "Byddai cronfa o £30,000 yn ddigon i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol dderbyn y cyfrifoldeb dros gynnal a chadw'r wal.

"Ond, mae codi'r arian yna a chael arian i brynu'r wal ei hun yn her ar hyn o bryd.

"Mae cronfa wedi dechrau gyda ni yn 2008, ond rhyw £1,000 sydd gyda ni. Mae angen i ni apelio ar bobl Cymru i gyfrannu arian er mwyn i ni ddiogelu'r wal am byth."

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud nad ydy'r ail opsiwn o restru'r adeilad trwy Cadw yn addas ac nad ydy'r "adeilad yn cyrraedd y meini prawf".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd swyddogion Cadw yn cyfarfod Cyngor Cymuned Llanrhystud a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym mis Mawrth i archwilio yn fwy effeithiol y ffyrdd gorau o ofalu am y safle."

Straeon perthnasol