Scarlets: Cytundebau newydd i dri o sêr tîm y Gamp Lawn

Ken Owens, Jonathan Davies a Rob Evans Image copyright Getty Images
Image caption Ken Owens, Jonathan Davies a Rob Evans

Mae tri o sêr rygbi Cymru - Jonathan Davies, Ken Owens a Rob Evans - wedi arwyddo cytundebau newydd gyda'r Scarlets.

Chwaraeodd y tri rôl allweddol ym muddugoliaeth Cymru yn erbyn Iwerddon ddydd Sadwrn, gan sicrhau Camp Lawn arall i dîm Warren Gatland.

Roedd y tri hefyd yn aelodau amlwg o'r tîm sicrhaodd y Pro12 i'r Scarlets yn 2017.

Dywedodd rheolwr y Scarlets, Wayne Pivac - fydd yn olynu Gatland wedi'r Cwpan y Byd yn Japan yn ddiweddarach eleni - fod hyn yn "newyddion gwych" i'r clwb.

Owens ydy capten y rhanbarth, ac fe gafodd Davies ei enwi yn chwaraewr y gyfres yn nhaith y Llewod i Seland Newydd yn 2017.

Mae'r prop Rob Evans wedi ennill 35 cap dros ei wlad.