Arglwydd Elis-Thomas yn erbyn swydd 'Cymraeg hanfodol'

Y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth Image copyright Geograph
Image caption Mae'r Llyfrgell Genedlaethol wedi ei lleoli yn Aberystwyth

Roedd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn gwrthwynebu gwneud y Gymraeg yn hanfodol i swydd prif weithredwr y Llyfrgell Genedlaethol.

Ar ddechrau'r broses recriwtio, roedd y llyfrgell wedi dweud wrth y llywodraeth y byddai penodi rhywun sydd methu siarad Cymraeg yn ei gwneud yn "agored i feirniadaeth gyhoeddus".

Dywedodd swyddogion Llywodraeth Cymru fod y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon yn "bendant" na ddylai'r Gymraeg fod yn hanfodol.

Cafodd Pedr ap Llwyd - siaradwr Cymraeg rhugl - ei benodi fel y prif weithredwr newydd ym mis Rhagfyr.

Roedd ymddygiad y dirprwy weinidog yn "hollol warthus", yn ôl Cymdeithas yr Iaith.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai'r bwriad oedd "sicrhau bod y cyfle ar gael i'r ystod ehangaf o ymgeiswyr", a bod yr "ymgeisydd gorau posib" yn cael ei benodi.

Image copyright Llyfrgell Genedlaethol
Image caption Cafodd Pedr ap Llwyd ei benodi fel prif weithredwr ym mis Rhagfyr y llynedd

Mae rhaglen Newyddion 9 wedi gweld e-byst sy'n dangos anghydfod rhwng y Llyfrgell Genedlaethol a Llywodraeth Cymru.

Mewn ymdrech i gyfiawnhau hysbysebu'r rôl fel un 'Cymraeg hanfodol', dywedodd un swyddog o'r Llyfrgell Genedlaethol bod "90% o staff y Llyfrgell yn rhugl yn y Gymraeg ac yn dymuno byw eu bywyd bob dydd yn siarad yr iaith".

"Os bydd y Llyfrgell yn penodi rhywun di-Gymraeg, byddai ef/hi ddim yn gallu cyfathrebu gyda'r staff yn yr iaith o'u dewis nhw, ac felly byddwn ni'n gweithio yn erbyn Deddf Iaith 2010, gan ddwyn anfri ar y Llyfrgell a difrodi ei henw da."

Fe ddywedodd Linda Thomas, y prif weithredwr fydd yn gadael y swydd ar ddiwedd y mis, fod perygl i wrthwynebiad y llywodraeth ymddangos fel ymgais i "chwilio am wrthdaro".

Wrth drafod y mater dros e-bost gyda chyd-weithiwr, dywedodd swyddog ei fod yn "bryderus" y gallai'r mater "achosi ffrae gyhoeddus niweidiol".

'Denu maes eang'

Mewn e-bost, fe ddywedodd Jason Thomas - a oedd yn cynrychioli Llywodraeth Cymru ar y panel penodi - fod yr Arglwydd Elis-Thomas yn awyddus i "ddenu maes mor eang â phosib".

"Fe ailadroddodd [yr Arglwydd Elis-Thomas] na ddylai'r rôl gael ei hysbysebu fel un ble mae'r Gymraeg yn hanfodol," meddai.

Image copyright Wikimedia
Image caption Nid oedd Yr Arglwydd Elis-Thomas am weld y Gymraeg fel sgil hanfodol i ymgeiswyr

Fe benderfynodd llywydd y Llyfrgell Genedlaethol fwrw 'mlaen â'r hysbyseb 'Cymraeg hanfodol'.

Erbyn diwedd y broses, fe ddywedodd swyddog y llywodraeth nad oedd yr Arglwydd Elis-Thomas am fynd yn erbyn y penderfyniad ond ei fod am sicrhau nad oedd y penodiad yn "fater ffiniol" (borderline).

Wrth ymateb ar Twitter, dywedodd AC Plaid Cymru, Bethan Sayed, bod safbwynt y gweinidog yn "hollol annerbyniol" ac y byddai'n gofyn i'r pwyllgor diwylliant, y Gymraeg a chyfathrebu ysgrifennu ato.

Yn ôl Llywodraeth Cymru cafodd y penodiad ei wneud gan ymddiriedolwyr ar sail y "cytundeb fframwaith" rhyngddyn nhw a'r llyfrgell, a bu "rhywfaint o drafodaethau" rhwng y cyrff yn ei gylch.

"Bwriad Llywodraeth Cymru bob amser oedd sicrhau bod y cyfle ar gael i'r ystod ehangaf o ymgeiswyr, a sicrhau bod yr ymgeisydd gorau posib yn cael ei benodi i arwain y llyfrgell."

Ychwanegodd y llefarydd bod y llywodraeth yn "falch iawn" o benodiad Pedr ap Llwyd.

Straeon perthnasol