Aron Gunnarsson yn debygol o adael Caerdydd

Aron Gunnarsson Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Fe wnaeth Aron Gunnarsson arwyddo i Gaerdydd yn haf 2011

Mae chwaraewr canol cae Caerdydd, Aron Gunnarsson yn debygol o adael y clwb pan fydd ei gytundeb yn dod i ben ar ddiwedd y tymor.

Fe wnaeth y chwaraewr 29 oed arwyddo cytundeb am flwyddyn yn unig wedi i'r clwb ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr, ond mae adroddiadau wedi'i gysylltu â chlwb Al-Arabi yn Qatar.

Byddai capten Gwlad yr Iâ yn ymuno â'i gyn-reolwr ar lefel ryngwladol, Heimir Hallgrímsson, sydd wedi bod yn rheolwr Al-Arabi ers y llynedd.

Mae Gunnarsson wedi chwarae 278 gwaith dros Gaerdydd, ac o'r garfan bresennol ef sydd wedi bod â'r clwb am y cyfnod hiraf.