Cyfrinachedd yn 'effeithio ar dryloywder' cyrff cyhoeddus

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Thinkstock

Mae cytundebau cyfrinachedd yn y sector cyhoeddus yn ei gwneud hi'n anodd dweud os ydy arian trethdalwyr yn cael ei wario'n effeithiol, medd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad.

Yn ei adroddiad blynyddol ar gyfrifon cyrff cyhoeddus, dywedodd y pwyllgor bod 'na deimlad fod sensitifrwydd masnachol yn cael ei ddefnyddio fel esgus yn rhy aml er mwyn peidio â datgelu gwybodaeth.

Roedd y pwyllgor hefyd yn feirniadol o Lywodraeth Cymru am beidio cyflwyno ei chyfrifon yn ddwyieithog gan i'r fersiwn Cymraeg gyrraedd bythefnos wedi'r un Saesneg.

Cafodd cytundeb Llywodraeth Cymru gydag Aston Martin ar gyfer eu safle newydd yn Sain Tathan, a phrosiect Cylchffordd Cymru yng Nglyn Ebwy eu crybwyll fel enghreifftiau lle mae gweinidogion a swyddogion y llywodraeth wedi peidio â datgelu dogfennau allweddol, gan atal y gallu i graffu'n llawn ar y prosiectau.

Tra bo'r pwyllgor yn derbyn bod hynny'n addas mewn rhai achosion, mae'n dod i'r casgliad bod angen i gyrff cyhoeddus bwyso a mesur yr angen i ddatgelu manylion er lles cyhoeddus, gan alw am fwy o dryloywder wrth adrodd ar rai agweddau o wariant a gwariant posib.

ffynhonnell y llun, Cylchffordd Cymru
disgrifiad o’r llunCyfeiriodd y pwyllgor at achos Cylchffordd Cymru fel enghraifft lle'r oedd gwybodaeth wedi ei ddal yn ôl yn enw cyfrinachedd

Nododd y pwyllgor achosion yn ymwneud â Chyfoeth Naturiol Cymru a'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus, pan gafodd cyfanswm o dros £140,000 o daliadau cyhoeddus eu rhoi i unigolion wrth iddyn nhw adael y sefydliadau yn 2017/18.

Pan ofynnodd y pwyllgor am wybodaeth bellach er mwyn penderfynu a oedd y taliadau'n rhoi gwerth am arian, cafodd ACau wybod nad oedd modd trafod hynny oherwydd cytundebau cyfreithiol.

'Pwysig bod gan y cyhoedd hyder'

Dywedodd aelodau eu bod yn poeni y gallai cytundebau o'r fath fod yn rhwystr sylweddol wrth ymchwilio i achosion o gelu gwybodaeth neu honiadau eraill o fewn sefydliad.

"Mae'r pwyllgor yn derbyn y gall fod amgylchiadau pan fydd angen i sefydliad ddiogelu gwybodaeth neu ddata at ddibenion cyfrinachol," meddai Nick Ramsay AC, cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

"Ond ni ddylai'r cymalau hyn gael eu defnyddio fel safbwynt diofyn gan gyrff y sector cyhoeddus i osgoi gwaith craffu a allai godi cywilydd.

"Mae'n bwysig bod gan y cyhoedd hyder yng ngwariant y sector cyhoeddus."

disgrifiad o’r llunMae angen i'r cyhoedd gael hyder yng ngwariant cyrff cyhoeddus, medd Nick Ramsay

Roedd y pwyllgor hefyd yn feirniadol o fethiant Llywodraeth Cymru i gyhoeddi ei chyfrifon yn ddwyieithog, gyda'r fersiwn Gymraeg yn dod bythefnos ar ôl y fersiwn Saesneg.

Mae'r pwyllgor yn credu bod gan Lywodraeth Cymru esiampl i'w gosod ar gyfer holl sefydliadau'r sector cyhoeddus sy'n cael eu hariannu gan y llywodraeth o ran bodloni safonau'r Gymraeg y mae wedi'u gosod.

Dywedodd Mr Ramsay: "Mae'r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi torri ei gofynion iaith Gymraeg ei hun yn bryderus ac yn siomedig.

"Byddem yn disgwyl i'r llywodraeth osod esiampl gadarnhaol o ran bodloni'r gofynion y mae'n eu gosod ar gyfer cyrff cyhoeddus eraill."

Eleni, craffodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar gyfrifon Llywodraeth Cymru, Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac Amgueddfa Cymru a gwnaeth lawer o argymhellion ar gyfer pob un.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am sylw.

Straeon perthnasol