Apêl wedi i ddynion geisio cipio dynes 21 oed yn Wrecsam

Stryd Fairfield Image copyright Google
Image caption Digwyddodd yr ymosodiad am 21:15 nos Sadwrn

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddau ddyn geisio cipio dynes oddi ar stryd yn Wrecsam.

Roedd y ddynes, 21 oed, yn cerdded ar ei phen ei hun ar hyd Stryd Fairfield am 21:15 nos Sadwrn pan ddigwyddodd yr ymosodiad.

Fe wnaeth dau ddyn yrru wrth ochr y ddynes mewn fan wen a cheisio ei gorfodi i mewn i'r cerbyd. Pan wrthododd y ddynes fe geisiodd un o'r dynion ei llusgo i mewn.

Llwyddodd y ddynes i dorri'n rhydd o'i afael ac fe yrrodd y cerbyd i ffwrdd.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu trwy ffonio 101.

Pynciau Cysylltiedig