Cynllun cyflog mudwyr yn taro Cymru'n waeth wedi Brexit

Workers on a car assembly line Image copyright Getty Images

Byddai trothwy cyflog arfaethedig i fudwyr sy'n edrych am waith yn y Deyrnas Unedig yn dilyn Brexit yn taro Cymru'n "galetach" na gweddill Prydain, yn ôl economegydd blaenllaw.

Dywedodd yr Athro Jonathan Portes bod yr effaith posib ar y sector gweithgynhyrchu yng Nghymru "o bryder yn enwedig".

Mae Llywodraeth y DU yn ymghynghori ar gynlluniau i roi stop ar hawl pobl i symud yn rhydd ar ôl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywed y Swyddfa Gartref y byddai'n caniatáu i'r DU ddenu gweithwyr talentog a gweithredu canlyniad y refferendwm.

'Taro Cymru yn galetach'

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ofyn i'r Athro Portes ystyried beth fyddai effaith posib cynlluniau Llywodraeth y DU ar Gymru.

Maen nhw'n cynnwys cyflwyno trothwy cyflog ble'n gyffredinol fyddai mudwyr a fyddai'n ennill llai na £30,000 y flwyddyn ddim yn gymwys i weithio'n y DU.

Image caption Dywedodd yr Athro Portes bod yna bryder y byddai y DU yn "llai deniadol i fudwyr sydd â sgiliau pan mae symud yn rhydd yn dod i ben"

"Bydd hynny'n taro Cymru yn galetach na gweddill y wlad," meddai'r Athro Portes.

"Er nad ydy cyflogau llawn amser ar gyfartaledd ar gyfer y DU yn bell o fod yn £30,000, yng Nghymru mae'r cyfartaledd yn sylweddol is na £30,000.

"Mae'n bwysig nodi nad ydy hyn am weithwyr heb sgiliau'n unig - rydyn ni'n gwybod yng Nghymru bod tipyn o weithwyr Ewropeaidd sy'n gwneud gwaith gyda sgiliau, yn enwedig yn y sector gweithgynhyrchu, fyddai'n cael eu dal gan y trothwy £30,000.

"Nid gweithio ar ffermydd yn unig mae mudwyr o'r UE, mae cyfran mawr yn gweithio mewn gweithgynhyrchu," ychwanegodd.

'Llai deniadol i fudwyr?'

Mae adroddiad yr Athro Portes yn galw ar i Lywodraeth Cymru weithio gyda byd busnes i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i ostwng y trothwy arfaethedig gan ddadlau y byddai trothwy o £20,000 yn ysgafnhau'r ergyd posib.

Mae'r gwaith ymchwil hefyd yn dod i'r casgliad y gallai cynlluniau Llywodraeth y DU arwain at ergyd o 1.1%-1.6% i'r economi Gymreig dros y 10 mlynedd nesa, o'i gymharu ag ergyd o 1.4%-1.9% ar gyfer economi'r DU.

Mae hyn achos bod Cymru'n llai dibynnol ar fewnfudwyr na'r DU yn ei chyfanrwydd.

Ond mae mudwyr yng Nghymru'n fwy'n tebygol o ennill llai na £30,000 ac felly'n gyfrannol byddai'r effaith yn waeth ar fewnfudiad i Gymru, meddai'r adroddiad.

Image copyright Getty Images
Image caption Mae cwmni Radnor Hills yn helpu mudwyr i gwblhau y gwaith papur angenrheidiol er mwyn aros yn y DU wedi Brexit

Dywedodd yr Athro Portes bod gweithwyr sydd eisiau gweithio i'r gwasanaeth iechyd yn debygol o fod yn gymwys i weithio ym Mhrydain o hyd ond bod cwestiwn "a fyddai pobl o Ewrop yn dal i fod eisiau dod i Brydain".

"Y pryder yw y bydd y DU yn ei chyfanrwydd a Chymru'n benodol yn llai deniadol i fudwyr Ewropeaidd pan mae'r rhyddid i symud yn dod i ben a dydy hi ddim yn bosib mwyach i gamu ar awyren, dod yma i weithio ac i bob pwrpas cael eu trin fel dinasyddion o Brydain fel mae nhw ar hyn o bryd," meddai.

Bydd cynnal mewnfudiad yn bwysig i fynd i'r afael â heriau demograffig fel y boblogaeth yn heneiddio, ychwanegodd yr Athro Portes.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Mae'r system fewnfudo newydd, a fydd yn weithredol o 2021, wedi'i chynllunio i gynyddu cyflogau a chynhyrchiant ar draws economi y DU, gn gynnwys Cymru ac fe fydd yn cefnogi busnesau, cymunedau a'n gwasanaethau cyhoeddus.

"Ry'n yn gwneud pob ymdrech i ddeall anghenion penodol y DU - a dyna pam ein bod cysylltu â busnesau, gweinyddiaethau datganoledig a'r cyhoedd am ein cynlluniau gydol 2019."

'£30,000 yn hurt'

Mae 30% o staff cwmni potelu dŵr a diodydd ysgafn Radnor Hills yn Nhrefyclo ym Mhowys yn dod o ddwyrain Ewrop.

Dywedodd y prif weithredwr William Watkins: "Ry'n ni yn ceisio cyflogi pobl leol hefyd - ond yma yng nghanolbarth Cymru does yna ddim lot o bobl o gwmpas ac felly mae wedi bod yn hanfodol i ni lenwi swyddi gan bobl o ddwyrain Ewrop.

"Mae'r ffigwr £30,000 yn hurt. Ry'n ni angen llawer o bobl sy'n ennill llai na £30,000 - yn enwedig yn y diwydiant bwyd a diod.

"Byddai cael trothwy ar gyfer y diwydiant bwyd yn drychineb.

"Rwy'n poeni'n fawr am yr effaith petai ni methu â chael gweithwyr o ddwyrain Ewrop."

Straeon perthnasol