Heddlu'r De yn darganfod corff ym Mro Morgannwg

Cyhoeddwyd
elin boyleFfynhonnell y llun, Heddlu'r De
Disgrifiad o’r llun,
Mae Elin Boyle wedi bod ar goll ers nos Fawrth

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau eu bod nhw wedi darganfod corff ym Mro Morgannwg.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Nash Point ar arfordir Bro Morgannwg fore Sul.

Nid yw'r corff wedi cael ei adnabod yn swyddogol hyd yma ond dywedodd yr heddlu bod teulu dynes o Gaerdydd sydd wedi bod ar goll wedi cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf.

Mae'r heddlu wedi bod yn pryderu am ddiogelwch Elin Boyle, 43 oed o ardal Danescourt, Caerdydd gan nad oes neb wedi ei gweld ers nos Fawrth.

Mae Ms Boyle yn athrawes yn Ysgol Plasmawr yng Nghaerdydd.