Heddlu yn pryderu am athrawes Ysgol Plasmawr sydd ar goll

  • Cyhoeddwyd
elin boyleFfynhonnell y llun, Heddlu'r De
Disgrifiad o’r llun,
Mae Elin Boyle yn athrawes yn Ysgol Plasmawr, Caerdydd

Mae Heddlu De Cymru yn pryderu am ddynes o Gaerdydd sydd wedi bod ar goll ers nos Fawrth.

Mae Elin Boyle, 43 oed, yn athrawes yn Ysgol Plasmawr, Caerdydd.

Cafodd Ms Boyle ei gweld ddiwethaf yn gadael ei chartref yn Danescourt, Caerdydd am 17:50 ar 12 Mawrth.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu trwy ffonio 101.