D-day: 'Mae'n bwysig bod ni'n cofio amdanyn nhw'

Aled Scourfield
Gohebydd BBC Cymru

Published
image copyrightAlamy
image captionGadawodd 5,000 o filwyr America Sir Benfro ar gyfer traethau Normandi

Mae gwirfoddolwyr sy'n cynnal a chadw tŵr rheoli o'r Ail Ryfel Byd yn gobeithio codi cofeb yn Sir Benfro i nodi presenoldeb miloedd o filwyr America yn y sir yn y misoedd cyn cyrch D-Day.

Fe ddaeth rhyw 5,000 o filwyr America o'r 110eg Catrawd Troedfilwyr, rhan o'r 28fed Adran, i'r ardal ym mis Hydref 1943.

Roedd cyfran fawr o'r milwyr wedi eu lleoli ym marics Llanion, ond roedd yna adrannau hefyd yn aros yn Llandyfái, Creseli, Hwlffordd ac Abergwaun.

Ar 1 Ebrill 1944, fe ddaeth y Cadfridog Dwight D Eisenhower, pennaeth Lluoedd y Cynghreiriaid, i ymweld â'r gatrawd.

Fe fuodd y Prif Weinidog ar y pryd, Winston Churchill, yn gwylio ymarferion ar draethau Llan-rhath (Amroth) a Wiseman's Bridge, ger Saundersfoot.

image captionMae John Brock a Keith Hamer yn wirfoddolwyr yn nhŵr rheoli Caeriw

Yn fuan wedyn, fe adawodd y 110eg gatrawd Sir Benfro i baratoi ar gyfer yr ymosodiadau ar draethau Normandi.

O'r 5,000 o filwyr wnaeth adael Sir Benfro - dim ond rhyw 500 oedd yn gallu ymladd erbyn diwedd 1944 oherwydd anafiadau a marwolaethau,

Fe fyddai'r gofeb newydd yn cael ei lleoli ger tŵr rheoli Caeriw - lle roedd maes awyr prysur yn ystod y rhyfel - sydd wedi cael ei adnewyddu gan wirfoddolwyr.

image captionBu Winston Churchill yn gwylio ymarferion ar draeth Wiseman's Bridge, ger Saunderfoot

Mae un o'r gwirfoddolwyr, Keith Hamer, wedi cael ei ysbrydoli i drefnu'r gofeb yn dilyn seremoni ddiweddar yn Sheffield pan anrhydeddwyd criw o Americanwyr gafodd eu lladd mewn damwain awyren yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

"Fe ges i'r syniad rhyw dair blynedd yn ôl.

"Mae'r digwyddiad yn Sheffield wedi rhoi hwb i fi drefnu'r gofeb. Roeddwn i yn meddwl pam nad oes yna gofeb yma yn Sir Benfro.

"Roedd y 110eg gatrawd yma a does yna ddim cofeb yma. Mae e mor bwysig."

Mae Mr Hamer yn gobeithio y bydd cofeb yn cael ei gosod ger y rŵr rheoli yng Nghaeriw, ac fe fydd seremoni yn cael ei chynnal ym mis Hydref.

Mae wedi cysylltu gyda chwmni olew Valero a Llysgenhadaeth America i ofyn am gefnogaeth.

image copyrightEmpics
image captionMae Marjorie Davies yn cofio'r Americanwyr yn dod i ddawnsfeydd lleol

Mae Marjorie Davies, sydd erbyn hyn yn 91 oed, yn cofio'r GI's yn y dawnsfeydd lleol oedd yn cael eu cynnal yn Nghreseli.

"Roeddwn i yn arfer gwylio'r Americanwyr yn gwneud eu jives a'u jitterbugs. Roedd e'n anhygoel.

"Yr wythnos cyn iddyn nhw adael, fe ofynnodd un o'r milwyr a oedd gen i nylons. Fe es i'r ddawns, ac fe wnaeth e roi pecyn i fi, ac roedd pâr o nylons yn y pecyn.

"Roeddwn i wrth fy modd."

image captionMae'n bwysig cofio'r cyfnod, medd Denzil Griffiths, sy'n gwirfoddoli yn y tŵr rheoli

Yn ôl Denzil Griffiths, un o'r rhai sy'n gwirfoddoli yn y tŵr rheoli, mae'n bwysig fod pobl heddiw yn cofio'r cyfnod.

Dywedodd: "Fe aeth gymaint draw i D-Day a dim ond 500 ddaeth 'nôl.

"Sdim memorial i'r bois we 'ma.

"Mae'n bwysig iawn bod ni'n cofio amdanyn nhw."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol