Teyrnged i 'ffrind gorau' wedi tân Pontardawe

Mark Logan

Mae gwraig wedi rhoi teyrnged i wr "rhyfeddol" gafodd ei ddarganfod yn farw yn dilyn tân mewn garej ym Mhontardawe.

Cafodd Mark Logan, 31 ac o Odre'r Graig, ei ganfod yn farw yn Rhos am tua 03:00 fore Sul 10 Mawrth.

Wrth roi teyrnged, dywedodd ei wraig Kirsty bod y teulu "wedi torri'n calonnau gan y drasiedi".

Mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio i'r digwyddiad, ond nid ydyn nhw'n credu bod amgylchiadau amheus.

'Ffrind gorau'

Aeth y deyrnged ymlaen: "Mae cymaint y galla' i ddweud am ba mor rhyfeddol oedd Mark. Roedd yn wr ardderchog ac yn ffrind gorau i mi, ac roeddwn yn ei garu mwy na all geiriau ddweud.

"Roedd yn dad ymroddedig i'n dau fab, oedd wedi gwirioni ag e. Byddwn ni'n trysori ein hatgofion ohono a bydd yn ein calonnau am byth."

Ychwanegodd yr heddlu bod gyrrwr tacsi a dynion oedd yn ardal Delffordd cyn y digwyddiad bellach wedi eu darganfod ac wedi cynorthwyo swyddogion gyda'r ymchwiliad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ychwanegol gysylltu gyda'r heddlu ar 101.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol