Sut deimlad yw bod yn hoyw yng Nghymru?

Lisa Power
Image caption Lisa Power ydy cyd-sylfaenydd elusen Stonewall

"Fe gafodd cariad un o fy ffrindiau ei churo i farwolaeth yn ystod 'exorcism' i geisio curo'r 'hoyw' allan ohoni. Roedd pethau anhygoel yn digwydd."

Mae Lisa Power, sy'n byw yng Nghaerdydd, wedi bod yn ymgyrchydd LHDT ers degawdau.

"Pan ddes i mas yn yr 1970au, roedd hi'n gyfreithlon i roi'r sac i rywun am fod yn hoyw," meddai.

"Doedd dim sôn am unrhyw athro neu nyrs oedd 'mas', doedd dim modd i ni fabwysiadu plant, doedd dim hawl i ni briodi. Roedden ni'n byw bywydau cyfyngedig."

Roedd yn gyfnod o anfodlonrwydd cyhoeddus, gydag ymgyrchoedd gwrth-hoyw yn y cyfryngau ac yn y llywodraeth.

Ond mae pethau wedi symud ymlaen ers iddi gyd-sefydlu'r elusen Stonewall 30 mlynedd yn ôl.

"Ni'n rhan o'r gymdeithas nawr, mae 'na wleidyddion blaenllaw sydd mas, ymhen hir bydd pêl-droedwyr yn yr Uwchgynghrair sydd mas - mae ganddo ni chwaraewyr rygbi sydd mas.

"Ni wedi dod yn andros o bell yn ystod y 30 mlynedd ddiwethaf.

"Ni'n cael priodi, ni'n cael plant a ni'n cael ein derbyn fel rhannau o deuluoedd."

Fe holodd BBC Cymru 1,001 o bobl yng Nghymru ynglŷn â pha mor gyfforddus yr oedden nhw'n teimlo am oedolion mewn perthnasau hoyw.

Roedd y canlyniadau'n awgrymu bod 83% naill ai'n 'eithaf' neu'n 'gyfforddus iawn' gyda'r peth.

Ond fe ddywedodd 15% eu bod nhw 'ddim o gwbl' neu 'ddim yn gyfforddus iawn' gyda pherthnasau hoyw. Doedd 2% ddim yn siŵr.

'Rhai llefydd peryglus'

Mae Bryan Bale, sy'n 75 ac o Gaerdydd yn gwybod ei fod yn hoyw ers ei fod yn fachgen ifanc.

Fel nifer, symudodd i Lundain lle'r oedd cymuned hoyw brysurach ar y pryd.

"Yn yr hen ddyddiau, roedd hi'n anodd ac fe oedd gangiau o 'queer bashers', roedd rai llefydd yn beryglus iawn," meddai.

"Roedd rhywun yn clywed am bobl yn gadael clybiau a gangiau yn ymosod arnyn nhw yn y strydoedd cefn."

Image caption Mae Bryan Bale yn 75 oed

Mae Bryan yn dweud ei fod wedi gorfod mynd â ffrindiau i'r ysbyty yn dilyn ymosodiadau homoffobaidd.

Doedd pobl ddim yn ei gymryd o ddifrif pan yr oedd mewn perthnasau hoyw chwaith, meddai.

"Mi oeddwn i mewn perthynas pan fu farw dau o fy mhartneriaid i ac fe oeddwn i'n ceisio esbonio i'r ymgymerwr.

"[Mi oedden nhw'n dweud wrtha'i] 'O, allwch chi ddim trefnu'r angladd, dim ond ffrind 'dych chi."

Sut mae Nigeria yn cymharu?

Mae camdriniaeth dal yn bodoli'n ôl Laolu, sy'n 23 oed ac yn wreiddiol o Nigeria. Mae bellach yn byw yng Nghaerdydd.

"Roeddwn i'n aros am y bws ac fe roedd tri o ddynion eraill [yn aros hefyd]. Dywedodd un 'os y bydde fe dal yn Affrica, mi fyddai wedi cael ei bledu â cherrig erbyn hyn'.

"Am amser hir, roeddwn i'n ei chael hi'n anodd bod y tu fas.

"Cefais fy magu yn Nigeria, sydd â rhai o'r cyfreithiau gwrth-LHDT gwaethaf yn y byd ar hyn o bryd.

"Pan oeddwn i'n tyfu lan, doedd hynny ddim gymaint o broblem â hynny, er mi oeddwn i'n cael fy mwlio dipyn fel plentyn.

"Mae hynny'n digwydd yn llai aml a nawr yma yng Nghaerdydd mae yna gymuned hoyw ac mae gen i ffrindiau."

Plant 'mor oddefgar'

Yn ôl arolwg BBC Cymru, mae pobl ifanc yn fwy cefnogol o berthnasau hoyw - gyda 94% o rheiny rhwng 18 a 34 oed yn dweud eu bod nhw naill ai'n eithaf neu'n gyfforddus iawn gyda nhw.

Yn ôl Lisa Power, mae'r genhedlaeth ieuengach yn fwy goddefgar o gymharu â phan oedd hi'n blentyn.

"Dwi'n meddwl bod plant yn yr ysgol yn wych," meddai.

"Maen nhw mor oddefgar ac maen nhw'n cychwyn grwpiau eu hunain, felly dwi'n edrych ymlaen at y dyfodol, mae'n gyffrous dros ben i'r gymuned hoyw."

Straeon perthnasol