Chwe Gwlad: Dim newid i'r 15 a drechodd Yr Alban

Liam Williams Image copyright Getty Images
Image caption Roedd rhaid i Liam Williams adael y maes yn erbyn Yr Alban oherwydd anaf i'w ysgwydd

Mae Warren Gatland wedi dangos ffydd yn y tîm a drechodd Yr Alban wrth enwi'r un 15 ar gyfer y gêm dyngedfennol yn erbyn Iwerddon yn rownd olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Byddai buddugoliaeth yn erbyn y Gwyddelod ddydd Sadwrn yn sicrhau Camp Lawn i Gymru - y cyntaf ers 2012.

Roedd pryder am ffitrwydd Liam Williams wedi iddo orfod gadael y maes gydag anaf i'w ysgwydd yn ystod y fuddugoliaeth yn erbyn Yr Alban, ond mae cefnwr y Saracens yn cadw ei le.

Gareth Anscombe fydd yn dechrau fel maswr unwaith eto gyda Dan Biggar yn gorfod bodloni gyda lle ar y fainc.

'Gwobrwyo'r chwaraewyr'

Bydd y capten, Alun Wyn Jones yn dod yn gyfartal â record Gethin Jenkins (134) am ymddangosiadau mewn gemau prawf yn erbyn Iwerddon.

Adam Beard fydd yn ymuno â Jones yn yr ail reng ar ôl i Cory Hill dderbyn anaf i'w goes yn erbyn Lloegr.

Dyma fydd 50fed gêm Gatland fel rheolwr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, a pe bai Cymru yn fuddugol dyma fyddai'r drydedd gamp lawn i'r gŵr o Seland Newydd ei churo - record ar gyfer unrhyw reolwr.

Dywedodd Gatland ei fod wedi enwi'r un tîm fel ffordd o "wobrwyo'r chwaraewyr am y perfformiadau a'r buddugoliaethau diweddar".

I'r Gwyddelod bydd cyn-chwaraewr y Scarlets, Tadhg Beirne yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad oherwydd anaf i Iain Henderson

Tîm Cymru

Liam Williams; George North, Jonathan Davies, Hadleigh Parkes, Josh Adams; Gareth Anscombe, Gareth Davies; Rob Evans, Ken Owens, Tomas Francis, Adam Beard, Alun Wyn Jones (C), Josh Navidi, Justin Tipuric, Ross Moriarty.

Eilyddion: Elliott Dee, Nicky Smith, Dillon Lewis, Jake Ball, Aaron Wainwright, Aled Davies, Dan Biggar, Owen Watkin.

Tîm Iwerddon

Rob Kearney; Keith Earls, Garry Ringrose, Bundee Aki, Jacob Stockdale; Johnny Sexton, Conor Murray; Cian Healy, Rory Best (C), Tadhg Furlong, Tadhg Beirne, James Ryan, Peter O'Mahony, Sean O'Brien, CJ Stander.

Eilyddion: Niall Scannell, Dave Kilcoyne, Andrew Porter, Quinn Roux, Jack Conan, Kieran Marmion, Jack Carty, Jordan Larmour.

Straeon perthnasol