ASau'n gwrthod gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb

Theresa May
Image caption Roedd Theresa May wedi annog ASau i bleidleisio yn erbyn gadael heb gytundeb

Mae Aelodau Seneddol yn San Steffan wedi pleidleisio i wrthod gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

Cafodd gwelliant i gynnig y llywodraeth ei basio gyda 312 aelod o blaid a 308 yn erbyn - mwyafrif o bedwar.

Roedd y llywodraeth wedi cynnig pleidlais ar wrthod Brexit heb gytundeb ar 29 Mawrth, ond roedd y gwelliant yn gwrthod gadael heb gytundeb ar unrhyw adeg.

Cafodd y cynnig, oedd wedi ei wella, yna ei basio o 321 i 278 yn Nhŷ'r Cyffredin, ar ôl i 13 gweinidog llywodraeth atal eu pleidlais.

Mae'r AS Ceidwadol David Davies, sy'n cefnogi Brexit, wedi galw ar weinidogion y llywodraeth wnaeth atal eu pleidlais i ymddiswyddo neu golli eu swyddi.

Er nad yw'r bleidlais yn rhwymo'r llywodraeth i weithredu mewn unrhyw fodd, mae'r canlyniad yn arwydd o'r hyn mae Aelodau Seneddol yn ei gefnogi.

Pleidleisiau Aelodau Cymru

Image caption Dim ond Guto Bebb o ASau Cymreig y Ceidwadwyr wnaeth gefnogi'r cynnig terfynol

Guto Bebb, AS Aberconwy, oedd yr unig Geidwadwr o Gymru i gefnogi'r cynnig terfynol yn erbyn gadael heb gytundeb ar unrhyw adeg.

Pleidleisiodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, gyda chwip y blaid drwy wrthod y cynnig oedd wedi ei wella.

Hefyd pleidleisiodd Chris Davies, David TC Davies, Glyn Davies, David Jones a Simon Hart yn erbyn y cynnig terfynol.

Ni wnaeth Stephen Crabb bleidleisio ar y cynnig terfynol.

Roedd ASau Cymreig Llafur a Phlaid Cymru ymysg y rhai bleidleisiodd yn erbyn Brexit heb gytundeb.

Pleidlais arall ddydd Iau

Daw'r bleidlais ddiwrnod yn unig wedi i ASau wrthod cytundeb y Prif Weinidog Theresa May i ymadael â'r UE am yr ail waith, a hynny o 391 pleidlais i 242.

Fe wnaeth aelodau hefyd wrthod gwelliant Malthouse oedd yn galw am ymestyn cyfnod Brexit er mwyn rheoli'r broses o adael heb gytundeb. Pleidleisiodd 164 o blaid y gwelliant, a 374 yn erbyn.

Wedi'r canlyniad, dywedodd Theresa May bod y "baich" ar Dŷ'r Cyffredin bellach i ddod o hyd i ffordd ymlaen.

Nawr mae disgwyl i ASau bleidleisio ddydd Iau ar gynnig i oedi'r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd, ond byddai angen gwneud cais i'r UE am ganiatâd i wneud hynny.

Ychwanegodd Mrs May y byddai modd gofyn am estyniad byr i gyfnod Erthygl 50 os oedd ASau'n dangos cefnogaeth i ffordd ymlaen, ond byddai'n rhaid gofyn am estyniad llawer hirach os nad oedd cynllun clir gan aelodau.

Yn ôl yr amserlen wreiddiol roedd disgwyl i Brydain adael yr UE ar y 29 Mawrth.

'Agos at golli ymddiriedaeth'

Galwodd AS Mynwy, David TC Davies, ar weinidogion wnaeth atal eu pleidlais i adael eu swyddi yn y llywodraeth.

"Dwi'n bryderus iawn am y ffordd mae [Theresa May] wedi ei thanseilio gan aelodau ei chabinet," meddai.

"Os ydy aelodau cabinet wedi ymatal mewn pleidlais oedd wedi ei chwipio, ni ddylen nhw fod yn y llywodraeth."

Ychwanegodd bod pleidlais nos Fercher yn fuddugoliaeth i ASau sydd eisiau aros yn yr UE: "Nid yw hyn am gael estyniad, mae hyn am atal Brexit rhag digwydd."

Image caption Galwodd David Davies ar weinidogion aeth yn erbyn y llywodraeth i ymddiswyddo

Dywedodd AS Ceidwadol Gorllewin Clwyd, David Jones, ei fod yn "bryderus iawn" bod gwleidyddion "ar fin colli ymddiriedaeth y bobl".

Ychwanegodd mai'r "unig ffordd y gallwn golli Brexit ydy petai'r llywodraeth yn cyflwyno camau i'w atal a byddai hynny'n ddifrifol iawn".

Dywedodd AS Llafur dros Ogledd Caerdydd, Anna McMorrin: "O'r diwedd rydym wedi cyrraedd ble ddyle ni fod wedi cyrraedd sawl mis yn ôl.

"Mae'r opsiwn o Brexit heb gytundeb oddi ar y bwrdd.

"Ond dyw'r Prif Weinidog dal ddim yn fodlon gwrando. Yr unig ffordd ymlaen nawr yw ceisio dod i gytundeb o fewn Tŷ'r Cyffredin a chyflwyno hwnnw yn ôl i'r bobl am benderfyniad terfynol."

Galwodd arweinydd seneddol Plaid Cymru, Liz Saville Roberts am estyniad "sylweddol" gydag "ymrwymiad clir tuag at gyfaddawd".

Prif Weinidog Cymru eisiau estyniad

Image caption Dywedodd Mark Drakeford bod nawr angen i Lywodraeth y DU sicrhau estyniad i Erthygl 50

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi ymateb i'r bleidlais drwy ddweud fod ASau wedi cymryd cam i'r cyfeiriad cywir drwy wrthwynebu gadael yr UE heb gytundeb.

"Mae'n rhaid i ASau nawr orchymyn y llywodraeth i ymestyn Erthygl 50 ac i weld beth yw'r teimladau o fewn San Steffan o ran y ffordd orau ymlaen."

Ychwanegodd hefyd fod 'na "gytundeb i'w chael" a bydd rhaid i Mrs May "stopio chwarae i'r bobl eithafol sydd o blaid Brexit".

Galwodd cyn-arweinydd Ceidwadol Cymru, Andrew RT Davies, am etholiad cyffredinol, gan ddweud bod Tŷ'r Cyffredin yn "gwbl gamweithredol".

Dywedodd AC UKIP, Neil Hamilton, bod y bleidlais yn gwneud dim ond "atgoffa etholwyr o'r bwlch rhwng y dosbarth gwleidyddol ac etholwyr".

Straeon perthnasol