Y Bencampwriaeth: West Brom 3-0 Abertawe

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Getty Images
disgrifiad o’r llunBaglu gwnaeth Celina wrth iddo wastraffu'r cyfle i ddod a'r Elyrch yn gyfartal

Abertawe yn methu'r cyfle i gau'r bwlch rhyngddyn nhw a'r chwech uchaf wedi colled siomedig o 3-0 yn erbyn West Brom.

Ar ôl dechreuad bywiog, aeth y tîm cartref ar y blaen wrth i gic rydd Chris Brunt grymanu heibio amddiffynwyr yr Elyrch i gornel isaf y rhwyd wedi 19 munud.

Fe wnaeth tîm Graham Potter dyfu mewn i'r gêm yn raddol, a pum munud cyn hanner amser fe gafodd yr Elyrch gyfle i unioni'r sgôr o'r smotyn.

Gwastraffu'r cyfle wnaeth Bersant Celina wrth iddo faglu a tharo'r bel yn ysgafn i draed yr amddiffyn.

10 munud fewn i'r ail hanner fy ddyblwyd mantais y Baggies gan Mason Holgate.

Cic rydd arall gan Brunt yn rhoi'r cyfle i'r amddiffynnwr ifanc benio'r bêl i gefn y rhwyd o chwe llath.

Jay Rodriguez ychwanegodd y drydedd i West Brom pum munud o'r chwiban olaf gydag ergyd o ganol y cwrt cosbi yn dilyn cig gornel.

Mae'r golled yn golygu bod Abertawe yn disgyn i'r pymthegfed safle yn y tabl.

Straeon perthnasol