Ydy hiliaeth wedi lleihau yng Nghymru?

Cyhoeddwyd
Disgrifiad o’r llun,
Dywed Reuel Elijah, artist RnB/hip, fod angen i'w genhedlaeth wybod mwy am hanes diwylliannol Caerdydd

Mae pawb yn wahanol. Mae rhai'n fwy awyddus i fod yn wahanol nag eraill.

Ond mae cael eich rhwystro, eich atal neu eich targedu am fod yn wahanol, yn fater gwahanol yn gyfan gwbl.

Wrth i BBC Cymru edrych ar sut mae'r wlad yn newid, does dim osgoi'r ffaith bod hiliaeth a rhagfarnau'n bodoli yng Nghymru.

Disgrifiad o’r llun,
Dywed Gaynor Legall fod "rhagfarnau yn parhau"

"Yr un alaw, ond dawns wahanol," meddai Gaynor Legall.

Fe gafodd ei geni a'i magu yng Nghaerdydd. Ond mae dal yn cael ei holi o ble mae'n dod "go iawn". A hynny oherwydd ei bod yn ddu.

"Tra fy mod yn gweld fy hun fel Cymraes, dydw i ddim yn siŵr os ydi Cymry - Cymry gwyn - yn fy nerbyn i fel Cymraes.

"Mae pobl yn cymryd yn ganiataol fy mod i'n 'arall'," meddai.

Mae Gaynor wedi gweithio yn y byd iechyd ac fel cynghorydd ym Mae Caerdydd.

Mae nawr yn cadeirio'r Gyfnewidfa Dreftadaeth a Diwylliannol - sefydliad gafodd ei greu er mwyn diogelu hanes Tiger Bay - a phoblogaeth leiafrifol Cymru.

"Fy ngwreiddiau ethnig i yw Afro-Caribbean ond Cymraes ydw i.

"I mi, mae rhagfarnau hiliol yng Nghymru ac yng Nghaerdydd yn benodol wedi newid yn y modd mae'n gweithio... yr un alaw, ond dawns wahanol.

"Mae'r geiriau wedi newid, dydi pobl ddim yn galw enwau, yn defnyddio'r geiriau hiliol fel oedden nhw. Ond mae yna ragfarnau clir yn dod i'r amlwg mewn ffyrdd tawelach.

"'Dw i'n meddwl os ydych chi'n ddu, chi'n dysgu'n gynnar - pan chi'n ifanc - i dal sylw i'r arwyddion, y ffordd mae pobl yn ymddwyn tuag atoch chi.

"Ond rydw i'n dweud hynny nawr - 'dw i bron yn 70.

"Mae gan y plant brofiadau gwahanol i'r rhai gefais i fel person ifanc."

Disgrifiad o’r llun,
Gaynor, nôl yn 1957, yn cyflwyno blodau i Shirley Bassey yn ardal y dociau Caerdydd

Fe fagwyd Reuel Elijah, sy'n gerddor 22 oed, yng Nghaerdydd hefyd.

"Rydw i wedi bod yn eithaf lwcus i beidio gorfod wynebu hiliaeth," meddai.

"Mae Grangetown yn ardal eithaf amrywiol - gyda chymunedau Asiaidd, Affricanaidd, Somali, Caribiaidd.

"Chi yng nghwmni'r bobl yma o hyd, felly mae'n anodd bod yn anwybodus o'i diwylliannau nhw.

"Chi'n gweithio efo pobl wahanol, ar y bws efo pobl wahanol - chi'n siŵr o gael sgwrs gyda rhywun sydd yn wahanol i chi ar ryw bwynt."

Rhagfarnau hiliol heb wella

Er hyn, mae'n cydnabod nad ydy hynny'n adlewyrchu profiadau pawb ar draws y wlad.

Mae hefyd yn teimlo bod gan ddiwylliant Cymru ddelwedd hen ffasiwn ym meddyliau nifer.

Fel rhan o'r gyfres 'Changing face of Wales', fe wnaeth BBC Cymru holi 1,001 o bobl - a gofyn ymhlith pethau eraill - ynglŷn â chyfraniad mudwyr a theimladau ynglŷn â rhagfarnau hiliol.

Mae'r atebion yn awgrymu bod yna werthfawrogiad o gyfraniad positif mae mudwyr wedi ei gael ar economi Prydain yn ogystal â'n bywyd diwylliannol.

Ond, yn gyffredinol, dydi'r rhagfarnau hiliol ddim wedi gwellau yn ystod y bum mlynedd ddiwethaf - a does dim disgwyl i bethau wella yn y dyfodol chwaith.

Disgrifiad o’r llun,
Yn ôl Reuel Elijah, mae'n "lwcus i beidio wynebu hiliaeth"

Yn ôl Kamilla Kosteck-Nestrata, mae pethau wedi newid ers iddi hi symud i Wrecsam o Wlad Pwyl er mwyn cael gwaith.

"Roedd rhai'n dweud 'mi ddyle chi symud yn ôl i'ch gwlad chi oherwydd fe wnaethoch chi gymryd fy swydd', 'dw i'n meddwl bod hynny'n anghywir.

"Ond yn gyffredinol roedd pobl yn glen. Mi oedd hynny rhyw 12 mlynedd yn ôl.

"Rwan, mae pethau'n wahanol iawn.

"Mae gen i lwyth o ffrindiau o Loegr a Chymru. 'dw i'n meddwl bod pobl yn fwy goddefgar nag oedden nhw 12 mlynedd yn ôl."

Troseddau casineb

Mae lliw croen dal yn broblem sylweddol yn ôl Dr Hade Turkmen. Yn wreiddiol o Dwrci, mae'n gweithio i elusen Chwarae Teg ac wedi bod yn cynnal gwaith ymchwil yn edrych ar gydraddoldeb ac amrywiaeth.

"Dydw i ddim wedi cael profiad o wahaniaethu yn uniongyrchol efallai, ond rydw i'n edrych yn wyn ac yn 'gyffredin'. Ond mae person du yn gallu cael profiadau hollol wahanol.

"Ond mae pobl sydd, dywedwch, ar lawr y ffatri - pobl dosbarth gweithiol - yn fwy tebygol o ddioddef anffafriaeth.

"Felly pan ydyn ni'n trafod anffafriaeth ....mae oed, ethnigrwydd, crefydd, cenedlaetholdeb a dosbarth yn ffactorau sy'n dylanwadu ar brofiadau unigolion...."

Mae'n anodd mesur sut y mae pobl yn gweld rhagfarnau.

Ond mi ydan ni'n gwybod bod troseddau casineb wedi cynyddu yng Nghymru a Lloegr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Cynnydd o 14% mewn troseddau hiliol (dros 71,000 o droseddau) a chynnydd o 40% yn nifer y troseddau crefyddol (mwy na 8,000 o droseddau).

Mae'n bryd i ni stopio siarad am y peth a dechrau gweithredu, yn ôl Iolanda Banu Viegas o Race Council Cymru.

Fe gafodd ei geni ym Mozambique, ei magu ym Mhortiwgal cyn symud i Wrecsam 18 mlynedd yn ôl.

"Un o'r rhesymu 'dw i yma - dyma un o'r gwledydd mwyaf democrataidd, gwlad oedd ddim yn gweld gwahaniaethau.

"Roedd pawb yn cael eu trin yn gyfartal. Mi oedd gennym ni'r un hawliau, hawliau dynol, hawliau merched, pethau nad oeddwn i wedi arfer efo nhw.

"Felly fe wnes i ddysgu popeth positif yn y wlad yma, dyna pam 'dw i eisiau cadw hynny oherwydd dyna sy'n gwneud fan hyn yn arbennig."