Y Bencampwriaeth: Norwich 1-0 Abertawe

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Harriet Lander

Colli bu hanes Abertawe oddi cartref yn erbyn Norwich yn Carrow Road.

Roedd hi'n gêm ddi-sgôr ar ddiwedd yr hanner cyntaf, gyda Norwich yn brwydro'n galed i geisio torri trwy amddiffyniad yr Elyrch.

Fodd bynnag, bu'n ail hanner gwell i'r Canaries wedi i Emi Buendia sgorio gôl gyntaf y gêm.

Er i Graham Potter alw Nathan Dyer a Wayne Routledge o'r cae i roi cyfle i Courtney Baker-Richardson a Barrie McKay, ni lwyddodd yr ymwelwyr i achub y blaen.

Ychwanega'r golled at rediad anffodus Abertawe, sydd wedi colli pob un o'u gemau oddi cartref yn y Bencampwriaeth eleni.