Merched Cymru i wynebu Seland Newydd mewn gêm gyfeillgar

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Dyma fydd yr ail dro i ferched Cymru wynebu Seland Newydd

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi y bydd tîm merched Cymru yn herio Seland Newydd mewn gêm gyfeillgar ym mis Mehefin.

Dyma fydd y gêm gyfeillgar olaf cyn bod carfan Jayne Ludlow yn dechrau ymgyrch rhagbrofol Euro 2021.

Bydd Cymru yn chwarae yng ngrŵp C gyda Norwy, Belarws, Gogledd Iwerddon a'r Ynysoedd Ffaro.

Dim ond un waith o'r blaen mae merched Cymru wedi wynebu Seland Newydd, mewn colled o 2-0 'nôl yn 2011.

Bydd y gêm yn cael ei chwarae yn Stadiwm Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd yn Lecwydd am 19:00 ar 4 Mehefin.