Tâl absenoldeb i staff sy'n ffoi o gamdriniaeth ddomestig
- Cyhoeddwyd
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched mae un o gomisiynwyr Cymru wedi cyhoeddi polisi staff newydd sy'n rhoi cefnogaeth i unigolion sy'n dioddef camdriniaeth ddomestig.
Gobaith Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yw bod y gefnogaeth a'r tâl absenoldeb yn galluogi staff i droi cefn ar gamdriniaeth a sicrhau llety diogel.
Mae darpariaeth debyg eisoes ar gael yn Ynysoedd y Philippines a Seland Newydd.
Dywedodd y comisiynydd, Sophie Howe bod cam-drin domestig yn broblem i bawb a bod angen i gyflogwyr weithio ar y cyd i daclo "un o'r problemau cymdeithasol mwyaf sy'n ein hwynebu heddiw".
Ychwanegodd Ms Howe: "Rydym yn gwybod fod llawer o fenywod yn aros mewn perthynas dreisgar oherwydd diffyg arian a mynediad i lety diogel iddyn nhw a'u plant.
"Fel cyflogwr, mae'n bwysig iawn i mi fod fy staff yn ymwybodol nad ydyn nhw ar eu pen eu hun wrth ddelio â sefyllfa ddifrifol a brawychus, a bod cefnogaeth hanfodol, ymarferol ar gael ar unwaith, er mwyn eu helpu i adael perthynas gamdriniol," meddai.
"Mae'r gefnogaeth yma yn ychwanegol i'n polisi gweithle, sydd eisoes yn ei le i ddiogelu dioddefwyr camdriniaeth, ac i sicrhau fod y gweithle'n le diogel."
Straeon perthnasol
- 25 Ebrill 2018
- 30 Mawrth 2017