Cyhuddo dyn 21 oed o ddynladdiad wedi gwrthdrawiad

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Christopher Gadd yn dilyn y digwyddiad ddydd Llun

Mae dyn 21 oed wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o ddynladdiad ar ôl i gerddwr farw yn dilyn gwrthdrawiad yn ardal Pontllanfraith, Caerffili ddechrau'r wythnos.

Mae Timothy Higgins o Gaerffili wedi'i gyhuddo o ladd Christopher Gadd, 48, ym maes parcio archfarchnad Sainsbury's ar Ffordd Trecelyn ddydd Llun

Mae'r erlyniad yn honni bod Mr Higgins wedi taro Mr Gadd gyda'i gerbyd Land Rover Freelander.

Mae Mr Higgins hefyd wedi'i gyhuddo o yrru heb drwydded nac yswiriant.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa yn dilyn y gwrandawiad yn Llys Ynadon Casnewydd a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron y ddinas fis nesaf.

Ffynhonnell y llun, Nick Morgan
Disgrifiad o’r llun,
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad honedig ger archfarchnad Sainsbury's ar Ffordd Trecelyn