Sol Bamba i fethu gweddill y tymor i Gaerdydd gydag anaf

Sol Bamba Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae Sol Bamba ymhlith prif sgorwyr Caerdydd eleni gyda phedair gôl

Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi cadarnhau y bydd yr amddiffynnwr Sol Bamba allan am weddill y tymor.

Fe gafodd Bamba, 34 oed, ei gario o'r maes gydag anaf wrth i'r Adar Gleision gael eu trechu gan Wolves ddydd Sadwrn.

Daeth cadarnhad gan reolwr Caerdydd, Neil Warnock, fod Bamba angen llawdriniaeth ar ei ben-glin.

Mae'r amddiffynnwr wedi dechrau pob gêm oni bai am un hyd yma yn Uwch Gynghrair Lloegr i Gaerdydd, ac mae'n gyfartal o ran y nifer fwyaf o goliau i'r clwb y tymor hwn gyda phedair.

Dywedodd Warnock y byddai colli Bamba yn "ergyd enfawr i'r garfan".

Mae Caerdydd yn parhau yn y safleoedd cwymp yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Straeon perthnasol