Arestio dyn o ardal Caerffili ar amheuaeth o lofruddiaeth

Ffordd Trecelyn Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger archfarchnad Sainsbury's ar Ffordd Trecelyn

Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn gael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn gwrthdrawiad angheuol yn ardal Pontllanfraith, Caerffili.

Fe gafodd swyddogion eu galw am 16:00 ddydd Llun i wrthdrawiad rhwng cerbyd Land Rover Freelander a pherson ger archfarchnad Sainsbury's ar Ffordd Trecelyn.

Bu farw dyn lleol yn y fan a'r lle ac mae'r llu wedi cadarnhau fod dyn o ardal Caerffili wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Mae swyddogion yn apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw ddeunydd fideo o'u cerbydau allai fod yn ddefnyddiol i'r ymchwiliad, neu unrhyw wybodaeth i gysylltu gyda'r heddlu ar 101.

Pynciau Cysylltiedig