Cyhoeddi gemau rownd gynderfynol Cwpan Cymru

Cwpan Cymru Image copyright Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Mae'r enwau allan o'r het ar gyfer rownd gynderfynol Cwpan Cymru.

Mae'r pedwar clwb sydd ar ôl yn y gystadleuaeth i gyd yn chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru.

Yr enw cyntaf allan o'r het oedd Y Seintiau Newydd, ac fe fydden nhw'n wynebu'r Barri.

Met Caerdydd - sy'n hanner isaf y gynghrair wedi'r toriad ym mis Ionawr - fydd yn herio deiliaid y gwpan, Cei Connah yn y gêm arall.

Bydd y gemau'n cael eu chwarae ar benwythnos olaf mis Mawrth ar feysydd niwtral.

Pynciau Cysylltiedig