Rhybudd Brexit digytundeb gan Seneddau Cymru a'r Alban

Cynulliad Image copyright Getty Images

Fe wnaeth aelodau Cynulliad Cymru a Senedd Yr Alban gyflwyno ple ar y cyd yn erbyn Brexit heb gytundeb, gan alw am ohirio Erthygl 50 ddydd Mawrth.

Dyma'r tro cyntaf i drafodaethau ar y cyd rhwng y ddwy siambr ddigwydd yn ôl Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.

Dywedodd datganiad ar y cyd gan Mr Drakeford a Phrif Weinidog Yr Alban, Nicola Stugeon, eu bod wedi cymryd "y cam unedig a hanesyddol hwn i anfon y neges fwyaf eglur bosibl i Lywodraeth y DU a San Steffan fod rhaid i'r cynllun gweithredu anghyfrifol hwn ddod i ben yn awr".

Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU yn dweud fod y cytundeb er lles y Deyrnas Unedig cyfan.

Yng Nghymru, pleidleisiodd 37 aelod o blaid a 13 yn erbyn gorchymyn i'r Prif Weinidog Theresa May wrthod Brexit heb gytundeb, gyda 87 o blaid a 29 yn erbyn yn Yr Alban.

'Cwbl annerbyniol'

Mae Mrs May wedi addo pleidlais i ASau i oedi Brexit os na fyddan nhw'n derbyn telerau ei chytundeb.

Ar hyn o bryd, bydd y DU yn gadael yr UE ar 29 Mawrth heb gytundeb.

Fe wnaeth yr ACau ddadlau ar gynnig yn dweud y byddai gadael yr UE heb gytundeb yn "gwbl annerbyniol" ac y dylid oedi cyn gadael yr UE "er mwyn i gytundeb gael ei drafod ar y ffordd orau ymlaen".

Image caption Mae Mark Drakeford yn awyddus i Lywodraeth y DU wrando ar safbwyntiau'r llywodraethau datganoledig

Dywedodd Mr Drakeford: "Pwrpas hyn i gyd yw ceisio - unwaith eto - cael Llywodraeth y DU i ystyried safbwyntiau'r llywodraethau datganoledig, na fyddwn ni'n arwyddo unrhyw gynnig i adael yr UE heb gytundeb."

Mae ACau eisoes wedi pasio cynnig sy'n gwrthwynebu Brexit heb gytundeb, a chynnig sy'n galw ar waith i ddechrau ar refferendwm arall.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio bydd "sgil effeithiau difrifol" i'r economi os fyddai'r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

'Safle difrifol'

Mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Llun, dywedodd Mr Drakeford nad yw'n credu y bydd y trafodaethau diweddaraf ym Mrwsel yn bodloni'r Ceidwadwyr sydd o blaid Brexit caled yn y Tŷ Cyffredin.

"Byddwn ni mewn safle difrifol iawn wedyn o safbwynt Cymru," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Bydd Brexit trefnus o fudd i'r DU, a'r ffordd orau i gyflawni hynny yw i ASau o bob plaid gefnogi cytundeb y Prif Weinidog.

"Mae'r cytundeb yn un da i Gymru, Yr Alban a gweddill y DU - mae'n cyflawni canlyniad y refferendwm, ac yn gwarantu partneriaeth glos ar gyfer y dyfodol gyda'r UE, gan sicrhau hawliau dinasyddion.

"Mae gwrthod cefnogi cytundeb y Prif Weinidog yn gwneud sefyllfa ddigytundeb fydd yn ddinistriol yn fwy tebygol."

Straeon perthnasol