Dyn wedi marw wedi gwrthdrawiad yn Nant Gwynant

Yr A498 ger hostel Bryn Gwynant Image copyright Google
Image caption Yr A498 ger hostel Bryn Gwynant

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau bod dyn 56 oed wedi'i ladd wedi iddynt gael eu galw i ardal Nant Gwynant brynhawn Sul.

Credir bod y car wedi gadael ffordd yr A498 ger hostel Bryn Gwynant tua 13:00.

Mae swyddogion yn awyddus i siarad ag unrhyw un sydd wedi gweld car Mazda MX5 (rhif FN52 BN0) yn cael ei yrru rhwng Corwen a Nant Gwynant rhwng 5.20am ddydd Iau diwethaf a 1pm ddydd Sul.

Dywedodd y Cwnstabl Alun Jones: "Mae'r ymchwiliad yn ymwneud ag amgylchiadau'r gwrthdrawiad."

Doedd yna ddim cerbyd arall yn gysylltiedig â'r digwyddiad.