PRO14: Dreigiau 15-28 Ulster

Josh Lewis Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Josh Lewis (chwith) oedd yn safle'r maswr i'r Dreigiau ddydd Sul

Colli oedd hanes y Dreigiau unwaith eto yn y PRO14 ar gae mwdlyd Rodney Parade ddydd Sul.

Rhoddodd Josh Lewis y tîm cartref ar y blaen gyda chic gosb - ond barodd y fantais ddim yn hir.

Jordi Murphy sgoriodd gais agoriadol y gêm, cyn i Marty Moore, John Cooney ac Alan O'Connor groesi i selio pwynt bonws i'r ymwelwyr.

Roedd Hallam Amos yn un o naw newid i dîm y Dreigiau a gollodd yn drwm i Benetton y penwythnos diwethaf, ond ychydig iawn o wahaniaeth wnaeth hynny i'r canlyniad.

Fe lwyddodd cais gosb a chais hwyr Taine Basham i gau'r bwlch ar y diwedd i 15-28.

Dreigiau: Jordan Williams; Hallam Amos, Adam Warren, Jarryd Sage, Dafydd Howells; Josh Lewis, Rhodri Williams; Brok Harris, Rhys Lawrence, Lloyd Fairbrother, Joe Davies, Matthew Screech, Huw Taylor, Taine Basham, Harri Keddie (c).

Eilyddion: Ellis Shipp, Josh Reynolds, Leon Brown, Max Williams, Lennon Greggains, Tavis Knoyle, Jason Tovey, Tyler Morgan.

Ulster: L Ludik; R Baloucoune, D Cave, S McCloskey, R Lyttle; B Burns, J Cooney; E O'Sullivan, R Herring, M Moore, A O'Connor (c), K Treadwell, C Ross, J Murphy, N Timoney.

Elyddion: A Warwick, J Andrew, W Herbst, I Nagle, M Rea, D Shanahan, J Hume, P Nelson.