Dyn wedi'i arestio yn dilyn ymosodiad yn derbyn gofal meddygol

car heddlu
Image caption Mae presenoldeb yr heddlu wedi bod yn amlwg yn yr ardal wedi'r digwyddiad

Mae dyn gafodd ei arestio wedi ymosodiad ar ddyn oedrannus yr wythnos diwethaf wedi cael ei drosglwyddo o ofal yr heddlu i ofal gweithwyr iechyd.

Ddydd Iau diwethaf, cafodd dyn 71 oed ei drywanu wrth fynd â'i gŵn am dro ger sŵ Wild Animal Kingdom yn Y Borth yng Ngheredigion.

Cafodd dyn 21 oed ei arestio dan amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol.

Mewn datganiad ar eu cyfrif Twitter ddydd Sadwrn, dywedodd Heddlu Dyfed Powys fod y dyn bellach yn derbyn triniaeth feddygol gan arbenigwyr iechyd.

"Nid yw'r dyn yn y gymuned a does dim risg i'r cyhoedd," meddai'r datganiad.

Cafodd y dyn 71 oed ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd lle mae'n parhau mewn cyflwr difrifol.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol