Seiclwr mewn cyflwr difrifol wedi gwrthdrawiad â seiclwr arall

heddlu

Mae seiclwr mewn cyflwr difrifol yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Ddinbych ddydd Sadwrn.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau seiclwr ar y B5437 yn Llidiart-Y-Parc ger Corwen tua 13:30.

Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans fod dyn wedi ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Prifysgol Stoke i gael triniaeth yn yr uned trawma arbenigol yno.

Yn ôl Heddlu'r Gogledd, bydd yr A5 o Gorwen i Langollen ar gau am rai oriau.

Pynciau Cysylltiedig