Cau'r A470 ar ôl i lori'n cario pren droi drosodd

Lori Image copyright Gorsaf Dân Trefaldwyn

Mae'r A470 ym Mhowys wedi ailagor ar ôl i lori oedd yn cario pren droi drosodd fore Gwener.

Cafodd y ffordd ei chau i'r ddau gyfeiriad rhwng Llandinam a Llanidloes wedi'r digwyddiad am tua 06:20.

Cafodd llawer o bren ei wasgaru dros y ffordd, ac mae criwiau wedi bod yn gweithio i glirio'r ardal drwy'r bore.

Mae rhai cyfyngiadau yn dal i fod mewn grym wrth i'r gwaith glirio barhau.

Image copyright Gorsaf Dân Trefaldwyn