PRO14: Scarlets 10-6 Munster

Ioan Nicholas Image copyright Getty Images
Image caption Ffaith y dydd: Mae Ioan Nicholas (canol) yn gefnder i'r dyfarnwr Nigel Owens

Fe hawliodd y Scarlets fuddugoliaeth werthfawr mewn amodau anodd yn erbyn Munster nos Sadwrn.

Roedd y glaw yn drwm ar Barc y Scarlets, ac fe lwyddodd y tîm cartref i gadw'r ymwelwyr draw i sicrhau buddugoliaeth o 10-6.

Ioan Nicholas sgoriodd unig gais y gêm wedi 11 munud o chwarae.

Fe gafodd Leigh Halfpenny gêm daclus iawn ar ei ail ymddangosiad yn ôl wedi anaf i'w ben, ac ef giciodd gweddill pwyntiau'r Scarlets.

Bu'n rhaid i'r Scarlets amddiffyn yn gadarn am gyfnodau hir i gadw Munster - oedd ar frig Adran A ar ddechrau'r noson - draw.