PRO14: Connacht 46-5 Y Gweilch

cais i Connacht Image copyright Getty Images
Image caption Matt Healy yn sgorio ail gais Connacht

Colli'n drwm oedd hanes y Gweilch yn erbyn Connacht ddydd Sadwrn.

Fe sgoriodd y tîm cartref chwe chais, a hon oedd y chweched gêm i'r Gweilch golli yn olynol.

Matthew Aubrey sgoriodd unig bwyntiau'r ymwelwyr, gyda Connacht yn sicrhau pwynt bonws yn yr hanner cyntaf.

Mae'r canlyniad yn gadael y Gweilch yn y pumed safle, gyda Connacht yn drydydd.