Adran Dau: Casnewydd 2-0 Carlisle

Adebayo Azeez Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Adebayo Azeez yn rhwydo i Gasnewydd

Roedd goliau gan Ade Azeez a Padraig Amond yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth o 2-0 i Gasnewydd ddydd Sadwrn.

Mae'r canlyniad yn cadw gobeithion yr Alltudion o gyrraedd y safleoedd ail-gyfle yn fyw.

Er i Carlisle fygwth drwy gydol y prynhawn, roedd golwr y tîm cartref ar ei orau i gadw llechen lân.

Mae tîm Mike Flynn yn codi i'r 12fed safle yn Adran Dau.