Uwch Gynghrair Lloegr: Wolverhampton Wanderers 2-0 Caerdydd

Raul Jimenez Image copyright Getty Images
Image caption Mae Raul Jimenez wedi bod ar dân i Wolves y tymor yma

Fe gollodd Caerdydd am y drydedd gêm gynghrair yn olynol wedi iddyn nhw gael eu trechu gan Wolves yn Molineux o 2-0.

Diogo Jota a Raul Jimenez sgoriodd y goliau i'r tîm cartref.

Mae'r canlyniad yn golygu bod yr Adar Gleision yn aros yn y deunawfed safle yn y tabl.

I rwbio halen yn y briw, bu'n rhaid i un o chwaraewyr amlycaf Caerdydd, Sol Bamba gael ei gario oddi ar y cae cyn yr egwyl oherwydd anaf.