Merched Cymru 0-0 Merched Gweriniaeth Iwerddon

Natasha Harding Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Cafodd Natasha Harding gyfle yn y munudau olaf i sicrhau'r fuddugoliaeth i Gymru

Fe wnaeth tîm pêl-droed merched Cymru sicrhau gêm gyfartal yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon mewn gêm gyfeillgar ym Marbella brynhawn Iau.

Katie McCabe oedd â'r cyfle gorau i'r Gwyddelod, ond Cymru gafodd y cyfleoedd gorau fel arall.

Fe wnaeth Marie Hourihan arbed yn wych o ergyd Kayleigh Green tra bod ymdrech Angharad James wedi'i chlirio oddi ar y llinell gôl.

Y postyn wnaeth atal Helen Ward, tra cod Natasha Harding wedi cael cyfle hwyr i sicrhau'r fuddugoliaeth i dîm Jayne Ludlow.

Bydd y ddau dîm yn herio ei gilydd eto ym Marbella ar 5 Mawrth.

Straeon perthnasol