Hanner yn rhagweld effaith negyddol Brexit, yn ôl pôl

baneri Image copyright Getty Images
Image caption Bydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth

Mae dros hanner etholwyr Cymru yn credu y bydd Brexit yn cael effaith negyddol ar yr economi, yn ôl arolwg barn blynyddol Gwyl Ddewi ar ran BBC Cymru.

O'r 1,001 o oedolion a holwyd, roedd 56% yn credu y byddai'n cael effaith negyddol ar economi Cymru - mae hynny'n uwch na'r llynedd.

Roedd 51% yn credu y byddai'n cael effaith negyddol ar ffordd o fyw yn gyffredinol yng Nghymru, sydd hefyd yn uwch na 2018.

Cafodd yr arolwg ei gynnal gan ICM Unlimited ar ran BBC Cymru.

Mae'r pôl piniwn hefyd yn awgrymu y byddai Llafur yn denu llai o bleidleisiau nag y gwnaethaon nhw yn Chwefror 2018.

Yr economi

Image caption Bellach mae 56% yn credu y bydd Brexit yn cael effaith negyddol ar economi Cymru, gyda 20% yn credu y bydd yn beth positif

Wrth ymateb i gwestiwn am yr economi yng Nghymru dywedodd 56% y byddai Brexit yn cael effaith negyddol, gydag 20% yn credu y byddai'n cael effaith gadarnhaol.

Pan ofynnwyd yr un cwestiwn yn 2018, roedd 49% yn rhagweld effaith negyddol gyda 24% yn ei weld yn bositif.

O ran effaith ar ffordd o fyw yn gyffredinol, roedd 51% yn credu y byddai'n cael effaith negyddol gyda 19% yn ei weld yn bositif.

Mae hynny'n cymharu gyda 46% a 23% yn 2018.

Wrth ymateb i gwestiwn ar gyllid personol roedd 10% yn credu y bydd Brexit yn beth cadarnhaol, 39% yn negyddol a 42% yn credu na fyddai'n gwneud unrhyw wahaniaeth.

Ffigyrau y llynedd oedd 14% (positif), 36% (negyddol) a 41% (dim gwahaniaeth).

Yn ôl yr Athro Roger Awan-Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, mae'r arolwg yn dangos bod barn y cyhoedd wedi troi'n fwy negyddol am Brexit.

Dywedodd: "Mae llai o bobl nawr yn credu y bydd Brexit yn arwain at oblygiadau positif a mwy yn credu y bydd yn niweidiol - iddyn nhw ac i Gymru gyfan."

Pleidleisio

Image caption Dyma oedd yr ymateb i'r cwestiwn oedd yn gofyn sut y byddai pobl yn pleidleisio yn eu hetholaethau mewn Etholiad Cynulliad

Mewn Etholiad Cynulliad mae'r arolwg yn awgrymu y byddai Llafur yn ennill 25 sedd - 22 o etholaethau a thri drwy'r system ranbarthol - Plaid Cymru'n ennill 19 sedd (11 etholaeth, 8 rhanbarthol), y Ceidwadwyr 14 sedd (6 etholaeth ac 8 rhanbarthol), UKIP yn ennill un sedd ranbarthol a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ennill un etholaeth.

Ar gyfer ethol cynrychiolwyr i etholaethau, aeth cyfran Llafur o'r bleidlais i lawr o 40% y llynedd i 34% eleni.

Gyda'r pleidiau eraill i gyd yn elwa ar draul Llafur, Plaid Cymru welodd y gwelliant mwyaf, gan godi o 24% yn 2018 i 27% eleni.

Gwelodd y Cediwadwyr (23%), y Democratiaid Rhyddfrydol (7%) a'r Blaid Werdd (2%) i gyd welliannau bach, a doedd dim newid yn y gefnogaeth i UKIP.

'Safle gorau ers 16 mlynedd'

Wrth edrych ar fwriadau etholwyr wrth fwrw'u pleidlais i'r rhestr rhanbarthol, aeth cyfran Llafur o'r bleidlais i lawr eto, o 36% y llynedd i 32% eleni.

Unwaith eto Plaid Cymru fanteisiodd fwyaf o hynny gan godi o 22% i 25% mewn blwyddyn.

Mae hynny'n galonogol iawn i Blaid Cymru medd yr Athro Awan-Scully.

"Maen nhw'n ail clir yn y Cynulliad, ac yn wir mae'r arolwg yma'n eu rhoi yn eu safle gorau mewn unrhyw arolwg ers bron 16 mlynedd."

Image caption Dywedodd 46% o bobl eu bod am weld y Cynulliad Cenedlaethol yn cael mwy o bwerau

Pwerau'r Cynulliad

Pan holwyd y bobl am ddyfodol datganoli, dywedodd 46% eu bod am weld Cynulliad gyda mwy o bwerau - 44% ddywedodd hynny y llynedd.

Roedd 27% yn hapus gyda'r sefyllfa bresennol a 3% am weld llai o bwerau i'r Cynulliad.

Yn y cyfamser roedd 13% am weld y Cynulliad am gael ei ddileu yn llwyr. Mae hynny un pwynt canran yn uwch na'r llynedd, ond mae'r ffigwr wedi bod yn eithaf sefydlog ers blynyddoedd ar ôl bod mor uchel â 23% yn 2014.

Dim ond 7% oedd o blaid annibyniaeth i Gymru, a dyw'r ffigwr yna heb newid ers 2018.

O ran sut y byddai pobl yn pleidleisio mewn Etholiad Cyffredinol i San Steffan, Llafur yw'r blaid fwyaf o hyd ond bu cwymp yn y gefnogaeth iddyn nhw o 49% yn 2018 i 42% eleni.

Roedd gwelliannau bach i'r Ceidwadwyr (+1%), Plaid Cymru (+2%), y Democratiaid Rhyddfrydol (+1%) ac UKIP (+1%), ac o safbwynt canlyniadau mae'r Athro Awan-Scully'n amcangyfrif fod hynny'n golygu y byddai'r Ceidwadwyr yn cipio Wrecsam a Dyffryn Clwyd oddi ar Lafur.

Ar y cyfan byddai Llafur yn ennill 26 o seddau, y Ceidwadwyr 10 a Phlaid Cymru yn cael pedwar Aelod Seneddol.

Fe wnaeth ICM Unlimited holi sampl cynrychioladol o 1,001 o oedolion dros y ffôn rhwng 7-23 Chwefror 2019. Cafodd cyfweliadau eu cynnal ar draws Cymru ac mae'r canlyniadau wedi eu pwyso i adlewyrchu proffil holl oedolioin Cymru. Mae ICM yn aelod o'r British Polling Council ac yn cydymffurfio â'i hol reolau.